NHS Cymru
Os oes gennych unrhyw bryderon am eich iechyd, neu iechyd aelod o'r teulu, dylech siarad â'ch meddyg teulu.
Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol am ddementia.
Cyngor Sir y Fflint
Tîm Cyswllt Cyntaf - Un Pwynt Mynediad
Drwy ffonio un rhif bydd modd i chi siarad â rhywun am wasanaethau iechyd, lles a gofal cymunedol. Bydd modd i chi gael gwybodaeth, cyngor, cymorth, asesiad a gofal cydlynol drwy ffonio’r rhif hwn.
Os yw’n well gennych, bydd hefyd modd i chi gael gwybodaeth a chysylltu drwy’r wefan a thrwy e-bost. P’run ai ydych yn cysylltu mewn perthynas â’ch hun, unigolyn yr ydych yn gofalu amdano neu rywun yr ydych yn pryderu amdano, bydd Un Pwynt Mynediad yno i wrando ac i’ch cynorthwyo.
Os nad yw Un Pwynt Mynediad yn gallu eich helpu’n uniongyrchol, byddant yn eich cyfeirio at rywun a fydd yn gallu (18+) a’r gwasanaethau sydd ar gael yn y sector statudol a’r trydydd sector.
Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion - Un Pwynt Mynediad
Preswylfa, Ffordd Hendy, Yr Wyddgrug, CH7 1PZ.
Ffôn: 03000 858858
E-bost: spoa@siryfflint.gov.uk
Sut ydw i'n gallu cael mynediad i ofal a chymorth?
Mae Sir y Fflint yn Cysylltu yn dod a Chyngor Sir y Fflint, Heddlue Gogledd Cymru, y Ganolfan Waith a mwy a sefydliadau partner eraill ynghyd, i ddarparu gwasanaethu o safon uchel sy'n canolbwyntio ar y cwsmer i'r cyhoedd ac unigolion diamddiffyn yn ein cymuned sy'n ei chael hi'n anodd cael mynediad at wasanaethu ar-lein neu ar y ffon.
Yn Sir y Fflint yn Cysylltu, gallwch siarad ag un o'n Ymgynghorwyr Gwasanaethu Cwsmeriaid hyfforddedig am ystod o wasanaethau'r cyngor.
Mae canolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu yng Bwcle, Nghei Connah, Y Fflint, Treffynnon, a'r Wyddgrug.
I gefnogi pobl sydd wedi cael diagnosis o ddementia yn ddiweddar, mae llwybr cefnogaeth wedi’i gyflwyno ledled Gogledd Cymru. Mae hyn yn cynnwys newydd ym Maes Glas, Sir y Fflint.
Mae’r cael ei gweithredu gan mewn partneriaeth â’r Awdurdod Lleol a’r Bwrdd Iechyd. Mae’r ganolfan yn rhoi cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor i bobl sy’n byw â dementia a’u gofalwyr a’u teuluoedd. Mae’r ganolfan hefyd yn cynnig clinigau iechyd a grwpiau cefnogi cyfoedion.
I gael rhagor o wybodaeth am , ffoniwch Ymddiriedolaeth y Gofalwyr ar 01492 542212.
Pan fo’n ymddangos bod oedolyn yn profi, neu mewn perygl o brofi camdriniaeth neu esgeulustod, mae gan y cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i ymgymryd ag ymholiadau i benderfynu p’run ai yw hynny’n wir ac i lunio ymateb i sicrhau bod yr oedolyn yn cael ei ddiogelu.
Gall staff a’r cyhoedd gysylltu â’r Gwasanaethau Cymdeithasol am gyngor, neu fe allwch ffonio 999 i gysylltu â’r Heddlu’n uniongyrchol os ydych chi’n credu bod trosedd wedi’i chyflawni neu bod rhywun mewn perygl brys.
Gwasanaethau Cymdeithasol: 01352 803444 neu Heddlu Gogledd Cymru ar 101.
Os ydych yn pryderu bod person oedrannus yn cael ei gam-drin, ffoniwch llinell gymorth Action on Elder Abuse ar 0808 808 8141 neu Age Connects Gogledd Ddwyrain Cymru ar 08450 549969.
Pan fydd y swyddfeydd ar gau, cysylltwch â'r Heddlu ar 101 neu mewn argyfwng ffoniwch 999.
Dewch i wybod mwy am a chael mynediad at adnoddau am ddementia yn y Gymraeg.
Rhagor o wybodaeth am rwydwaith a’r grwpiau a’r gweithgareddau lleol sy’n cael eu cefnogi gan DEEP yn Sir y Fflint.
Mae yn wefan sydd wedi’i datblygu i helpu pobl ganfod gwybodaeth am sefydliadau a gwasanaethau a all eu helpu i reoli eu lles eu hunain.
Mae yno wybodaeth a all eich helpu i feddwl am yr hyn sydd yn bwysig i chi, mae hefyd gwybodaeth am bobl a gwasanaethau yn eich ardal a all eich helpu gyda’r pethau sydd yn bwysig i chi.
Awgrymiadau defnyddiol a allai helpu gwneud bywyd ychydig yn haws ar ôl cael diagnosis o ddementia.
gan bobl sy’n byw gyda dementia, ar gyfer poblsy’n byw gyda dementia.
Mae gwarchod ac yn hybu hawliau pobl hŷn ledled Cymru, gan graffu a dylanwadu ar amrywiaeth eang o bolisïau ac arferion i wella eu bywydau.
Mae’n darparu help a chefnogaeth yn uniongyrchol i bobl hŷn drwy ei thîm gwaith achosion ac mae’n gweithio i rymuso pobl hŷn i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ac y gweithredir yn ei gylch.
Mae rôl y Comisiynydd yn seiliedig ar gyfres o bwerau cyfreithiol unigryw i’w chefnogi gydag adolygu gwaith cyrff cyhoeddus a’u dal yn atebol pan fo angen.
Mae’r gwasanaeth yn darparu ystod o offer Teleofal sydd yn cefnogi annibyniaeth. Gellir cysylltu offer Teleofal â gwasanaeth monitro 24 awr neu â system ffôn symudol neu system rybuddio gofalwr. Beth bynnag yw’ch sefyllfa, gallwch alw am gymorth.
Mae’r offer Teleofal ar gael i unrhyw un sy’n byw yn Sir y Fflint ac sy’n teimlo y gallai wneud gwahaniaeth i’w bywydau yn dilyn asesiad o anghenion.
Gofynnir am un taliad o £25 + TAW am osod yr offer.Os hoffech i ni gysylltu eich offer teleofal â chanolfan fonitro Galw Gofal, codir tâl monitro o £2.20 + TAW yr wythnos.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch 03000 858858 neu ebost: spoa@siryfflint.gov.uk
Cyngor annibynnol, ymarferol a rhad ac am ddim ar wneud dewisiadau gofal ar draws y DU.