Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Bwytwch yn ddiogel yr haf hwn
Published: 19/06/2017
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio gyda鈥檙 Asiantaeth Safonau Bwyd i godi
ymwybyddiaeth am fwyta鈥檔 ddiogel yr haf hwn yn ystod Wythnos Diogelwch Bwyd,
19-25 Mehefin.
Rydym wrth ein bodd pan fo鈥檙 tywydd yn cynhesu. Ond oeddech chi鈥檔 gwybod y
gallai fod angen i chi feddwl yn galetach am ddiogelwch bwyd dros fisoedd yr
haf? Mae ymchwil newydd yn awgrymu y gallai pobl yn Sir y Fflint fod yn rhoi eu
hunain a鈥檜 teuluoedd mewn perygl o wenwyn bwyd drwy ddiffyg gwybodaeth am 4
rheol hylendid bwyd: Oeri, Coginio, Glanhau ac osgoi Croeshalogi.
Mae nifer o facteria niweidiol yn tyfu mewn amodau cynhesach, gan olygu y
gallai ein bwyd beryglu ein hiechyd. Mae鈥檔 bwysig cadw bwyd darfodus yn yr
oergell neu mewn blwch oeri nes eich bod yn barod i鈥檞 fwyta. Gall bacteria
niweidiol ganfod eu ffordd i gigoedd wedi eu coginio a salad os yw cig amrwd yn
eu cyffwrdd neu fod yr un offer yn cael eu defnyddio. Mae cadw cigoedd amrwd
oddi wrth fwyd wedi鈥檌 goginio, golchi eich dwylo ar 么l cyffwrdd 芒 chig amrwd a
defnyddio offer gwahanol yn osgoi croeshalogi.
Yn y tywydd cynhesach, gallai treulio ychydig o funudau ychwanegol yn sicrhau
fod bwyd wedi ei baratoi鈥檔 dda ac wedi ei goginio鈥檔 drylwyr osgoi dyddiau o
ddiflastod gydag anhwylder stumog.
Darganfu Arolwg Bwyd a Chi yr Asiantaeth Safonau Bwyd, sy鈥檔 casglu gwybodaeth
am ddiogelwch bwyd drwy 3,118 o gyfweliadau ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd
Iwerddon, fod yng Nghymru:
路 Llai na hanner y bobl a holwyd yn dadrewi cig a physgod yn yr oergell neu鈥檙
ficrodon yn 么l y canllawiau (43%). Er nad oedd y rhan fwyaf o bobl yn dadrewi
cig na physgod yn briodol, roedd cyfran uwch o bobl yng Nghymru yn dadrewi bwyd
yn 么l y canllawiau nag yng ngweddill y wlad.
路 Roedd un o bob tri (35%) yn golchi cyw i芒r amrwd. Mae golchi cyw i芒r yn
peryglu lledaeniad bacteria a dylid ei osgoi.
路 Mae un o bob deg o bobl (9%) o leiaf weithiau鈥檔 bwyta cyw i芒r neu dwrci hyd
yn oed pan fod y cig yn binc neu fod hylif pinc neu goch ynddo.
路 Dim ond hanner (50%) y bobl a holwyd oedd yn gwirio tymheredd eu hoergell, ac
roedd llai (42%) yn gwybod y dylid cadw eu bwyd rhwng 0掳C a 5掳C.
路 Nid oedd un o bob pedwar (25%) yn defnyddio gwahanol fyrddau torri ar gyfer
gwahanol fwydydd, sy鈥檔 peryglu lledaeniad bacteria.
Dywedodd y Cynghorydd Chirs Bithell, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar
gyfer Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd:
鈥淢ae鈥檙 ffigyrau hyn yn dangos y gallai pobl wneud mwy yn Sir y Fflint i gadw
eu hunain a鈥檜 hanwyliaid yn ddiogel yr haf hwn. Dyna pam fod Cyngor Sir y
Fflint yn gweithio gydar Asiantaeth Safonau Bwyd i hyrwyddo arferion hylendid
da yn ystod Wythnos Diogelwch Bwyd. Nod yr wythnos eleni yw annog gwell
arferion hylendid dros yr haf, pan fo鈥檙 perygl o gael gwenwyn bwyd yn cynyddu鈥
I gael cynghorion ar sut i aros yn ddiogel yr haf hwn ewch i:
https://www.food.gov.uk/wales/about-fsa-wales/cymru/cyngor/gwenwyn-bwyd/canllaw-
cynhwysfawr-bwyd-diogel