97色网

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyfleoedd cyflogaeth a gwybodaeth ar gael

Published: 03/04/2017

Bydd Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn dod 芒 chyflogwyr lleol, darparwyr gwasanaeth a cheiswyr swyddi ynghyd yn Neuadd Ddinesig Cei Connah dros gyfnod o ddau ddiwrnod ym mis Ebrill. Ddydd Mercher 26 Ebrill, cynhelir Diwrnod Gwybodaeth a Sgiliau gyda chyngor ymarferol ar sut i ddod o hyd i swydd, yn ogystal 芒 gweithdai llwyddo mewn cyfweliad, ysgrifennu CV a llenwi ceisiadau am swyddi. Ddydd Iau 27 Ebrill, cynhelir Ffair Swyddi a bydd busnesau sydd 芒 swyddi lleol a lleoliadau profiad gwaith yn bresennol i drafod y cyfleoedd ar gael. Bydd partneriaethau addysg bellach ac addysg uwch hefyd wrth law i drafod yr hyfforddiant a chyrsiau sydd ar gael yn eich cymuned. Bydd cynrychiolwyr Clwb Menter Cymunedau yn Gyntaf hefyd yn bresennol i hyrwyddo cyfleoedd entrepreneuraidd yn Sir y Fflint a鈥檙 gefnogaeth sydd ar gael i鈥檙 rheiny sydd eisiau cychwyn eu busnes eu hunain. Bydd Gyrfa Cymru yn cynnig cymorth gyrfaoedd wedi ei deilwra ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed ynghyd 芒 mentoriaid y rhaglen Esgyn sy鈥檔 darparu cymorth un i un ar gyfer unigolion o fewn ardal Cymunedau yn Gyntaf sydd wedi bod yn ddi-waith ers chwe mis neu fwy ac sy鈥檔 byw mewn aelwyd ddi-waith. Bydd Ymgynghorydd Rhieni Cymunedau yn Gyntaf hefyd ar gael i gynnig cefnogaeth a chyngor i rieni sydd eisiau dychwelyd i鈥檙 gweithle, gan roi cyngor ar fudd-daliadau ac edrych ar swyddi gwirfoddol. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch 芒 Nia yn Cymunedau yn Gyntaf ar 01244 846090 neu Paul Murphy yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 07748 881647.