97色网

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Adolygiad o Ostyngiad Person Sengl 

Published: 13/07/2022

Mae trethdalwyr yn Sir y Fflint sy鈥檔 cael gostyngiad o 25% ar eu bil fel trigolion deiladaeth sengl yn cael eu gwirio yn fuan i sicrhau fod y gostyngiadau yn gywir. Mae hwn yn ymarfer rheolaidd, gydag adolygiad tebyg wedi ei gynnal yn ystod 2019.

Bydd Datatank Ltd, darparwr gwasanaeth sy鈥檔 arbenigo yn yr adolygiadau hyn, yn gweithio gyda鈥檙 Cyngor i gadarnhau鈥檙 gostyngiad ar gyfer hawlwyr dilys ac i ganfod pobl sy鈥檔 hawlio gostyngiad ar eu treth y Cyngor pan nad ydynt yn gymwys iddo. Mae鈥檙 adolygiad yn ffurfio rhan o fesurau鈥檙 Cyngor i atal twyll ac i ddiogelu pwrs y wlad.听

Pan fo hawliadau anghywir yn cael eu canfod bydd y Cyngor yn diweddu鈥檙 hawliadau ac yn ceisio ad-hawlio鈥檙 gostyngiad o鈥檙 dyddiad priodol.听

Ar hyn o bryd, mae dros 23,000 o breswylwyr - un mewn tair aelwyd - yn hawlio鈥檙 gostyngiad person sengl ac er bod y mwyafrif o drigolion yn hawlio鈥檙 gostyngiad yn gywir, efallai y bydd achosion ble nad yw鈥檙 Cyngor wedi eu hysbysu ynghylch newid mewn deiliadaeth aelwyd, sy鈥檔 effeithio ar y gostyngiad, neu fod hawliad ffug wedi ei wneud yn fwriadol.

Os yw unrhyw drethdalwr yn teimlo nad yw eu gostyngiad yn gywir gofynnir iddynt gysylltu 芒 gwasanaeth Treth y Cyngor yn syth ar (01352) 704848 neu ddweud ynghylch newid mewn amgylchiadau ar-lein yn 听cyn i鈥檙 adolygiad llawn gychwyn ddechrau Awst.