97色网

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Mabwysiadu a Maethu Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol

Published: 09/03/2017

Mae Wythnos Mabwysiadu a Maethu Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol yn dychwelyd o 6 Mawrth 2017. Mae鈥檙 ymgyrch flynyddol hon, dan arweiniad New Family Social am annog mwy o bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol i archwilio maethu a mabwysiadu. Yn 2016 fe gyrhaeddodd dros 19 miliwn o bobl. Mae鈥檙 wythnos yn dod 芒 gwasanaethau mabwysiadu a gofal maeth at ei gilydd, ar draws y DU. Bydd Gwasanaeth Maethu Sir y Fflint yn cynnal sesiwn wybodaeth i unrhyw un sydd am wybod mwy am faethu, ddydd Mawrth, 28 Mawrth am 7pm yng Ngwesty Beaufort Park, yr Wyddgrug. E-bostiwch maethu@siryfflint.gov.uk i gofrestru i fynychu. Bydd timau Maethu a Mabwysiadu hefyd yng Ngwyl Amrywiaeth, yn yr Wyddgrug fis Mai, fel rhan o stondin Cyngor Sir y Fflint. Mae鈥檙 nifer fwyaf erioed o bobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol bellach yn mabwysiadu ac yn maethu yn y DU, ond gyda dros 5,000 o blant mewn gofal yng Nghymrun unig, mae yna wir angen cael mwy o bobl lesbiaid, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol i ystyried mabwysiadu neu faethu. Mae tua 200 o blant sy鈥檔 derbyn gofal yn Sir y Fflint ac mae t卯m maethu Sir y Fflint yn galw ar bobl ystyried maethu gyda鈥檜 cyngor lleol. Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae鈥檙 rhan fwyaf o blant sydd angen gofal maethu dros 10 oed. Rydym yn chwilio am bobl sengl, cyplau a theuluoedd sydd 芒 phrofiad o weithio gyda phobl ifanc neu y mae eu plant eu hunain wedi tyfu ac wedi gadael gartref. 鈥淵n ein profiad ni, rydym wedi cael gofalwyr maeth a mabwysiadwyr Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol gwych, sydd 芒鈥檙 union sgiliau rydym yn chwilio amdanynt. Rydym yn credu bod gan bawb rywbeth gwahanol iw gynnig i blentyn neu berson ifanc mewn gofal, ac rydym yn croesawu unrhyw un i gysylltu 芒 ni i wybod mwy. Am fwy o wybodaeth ewch i www.flintshirefostering.org.uk