Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhaglen dai yn parhau i ddatblygu
Published: 10/03/2017
Dwy flynedd i mewn i鈥檙 Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol (SHARP), mae鈥檙 targed o
adeiladu 500 o gartrefi newydd a fforddiadwy yn symud ymlaen yn 么l y disgwyl.
Mae ystod o safleoedd newydd mewn cymunedau trefol a gwledig ledled y sir
wedi鈥檜 nodi a all, o bosibl, ddarparu 363 o gartrefi cyngor, cartrefi rhent
fforddiadwy a chartrefi fforddiadwy i鈥檞 prynu yn ychwanegol, gan roi cyfanswm o
507 ar 么l eu cyfuno 芒鈥檙 safleoedd eraill hynny sydd eisoes yn y rhaglen. Y
targed gwreiddiol ar gyfer tai Cyngor oedd i adeiladu 200 o gartrefi dros 5
mlynedd; ac mae鈥檙 adroddiad yn nodi鈥檙 potensial ar gyfer 277.
Mae鈥檙 safleoedd newydd yn cynnwys tir yn;
Yr hen Ganolfan Ieuenctid, Gronant
Maes Gwern, yr Wyddgrug
Ffordd Hiraethog, Mostyn
Llys Alun, Rhydymwyn
Canolfan Melrose, Shotton
Crib y Gwynt, Trelogan
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
鈥淩wyf wrth fy modd gyda鈥檙 cynnydd ardderchog sydd eisoes wedi鈥檌 wneud wrth
gyflawni SHARP mewn amser mor fyr. Mae鈥檙 galw am dai cymdeithasol a fforddiadwy
yn ein holl gymunedau yn parhau i dyfu ac mae mor bwysig ein bod yn parhau 芒鈥檙
momentwm sylweddol sydd eisoes wedi鈥檌 sicrhau yn ein cynlluniau uchelgeisiol i
fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 galw.
鈥淢ae鈥檙 safleoedd newydd a nodwyd ledled y sir eto yng nghanol ein cymunedau
lleol a gallant ddarparu rhagor o dai cymdeithasol a fforddiadwy o ansawdd
uchel, helpu i gynnal y cymunedau hynny a chreu cyfleoedd cyflogaeth.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai:
鈥淲rth ddarparu SHARP y Cyngor, mae鈥檔 hanfodol ein bod yn cydnabod anghenion a
dyheadau ein cymunedau gwledig a threfol. Bydd y safleoedd newydd hyn, ynghyd
芒鈥檙 cynnydd ardderchog a wnaed eisoes, yn galluogi鈥檙 Cyngor i wneud hynny a
gwireddu ei uchelgais ar gyfer tai cymdeithasol a fforddiadwy.鈥
Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried datblygiad camau allweddol nesaf y
SHARP, gan gynnwys gwaith hyfywdra manwl ar y safleoedd newydd a nodwyd yn eu
cyfarfod ddydd Mawrth, 14 Mawrth.