Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Agoriad swyddogol Campws Dysgu Treffynnon
Published: 06/03/2017
Agorwyd Campws Dysgu Treffynnon yn swyddogol gan Arweinydd Cyngor Sir y Fflint,
Y Cynghorydd Aaron Shotton, a鈥檙 Cadeirydd, y Cynghorydd Peter Curtis, ddydd
Llun 6 Mawrth.
Derbyniodd y campws, sy鈥檔 ymgorffori Ysgol Uwchradd Treffynnon ac Ysgol Maes y
Felin, arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru drwy ei Raglen Ysgolion yr 21
Ganrif ac Addysg, cydweithrediad unigryw gydag awdurdodau lleol i greu
cymunedau addysgol addas ar gyfer yr 21 Ganrif yng Nghymru.
Agorodd yr ysgolion eu drysau i ddisgyblion ym Medi鈥檙 llynedd.
Mae plant cynradd a myfyrwyr oedran uwchradd yn mwynhau鈥檙 adeilad or radd
flaenaf gydar holl gyfleusterau TG modern i gynorthwyo gyda dysgu. Cafodd
capsiwl amser ei adeiladu yn wal y prif ffreutur lle cofnododd plant hanes eu
hysgolion ar gyfer cenedlaethaur dyfodol.
Ar 么l taith o amgylch yr ysgol, cafodd gwesteion yn yr agoriad swyddogol gyfle
i fwynhau gwrando ar g么r yr ysgol gynradd a chyflwyniad gan Gyngor yr Ysgol
Uwchradd.
Yna dadorchuddiodd y Cynghorydd Shotton blac ar gyfer Ysgol Treffynnon gan
ddweud:
鈥淩wyf wrth fy modd yn cael y cyfle i agor y campws dysgu newydd ffantastig hwn
yn swyddogol ac rwy鈥檔 sicr y bydd y cyfleusterau newydd yn cael effaith barhaol
ar lwyddiannau addysgol disgyblion. Bydd yr adeilad hwn sydd o鈥檙 radd flaenaf
yn darparu amgylchedd ysbrydoledig ar gyfer dysgu ac addysgu ac mae鈥檔 dangos
ymroddiad gwirioneddol Cyngor Sir y Fflint i ddyfodol ei breswylwyr ifanc.
Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymwneud 芒鈥檙 prosiect hwn.鈥
Yna dadorchuddiodd y Cynghorydd Peter Curtis y plac ar gyfer Ysgol Maes y
Felin, gan ddweud:
鈥淢ae Ysgol Maes y Felin yn ysgol gynradd newydd ysblennydd sy鈥檔 fodern a
disglair gyda digon o le. Mae yma gyfleusterau rhagorol y tu mewn ar tu allan
sy鈥檔 wych i ddysgu a hefyd yn ddiogel. Maer ffaith fod y ddau gyfleuster
gwych hyn ar yr un safle hefyd yn golygu y bydd y trawsnewidiad o addysg
gynradd i uwchradd yn llai brawychus in disgyblion yn y dyfodol.鈥
Dywedodd John Weir, Pennaeth Ysgol Treffynnon a Peter Davies, Pennaeth Ysgol
Maes y Felin:
鈥淢ae wedi bod yn bleser ac anrhydedd i allu symud ein hysgolion i gyfleusterau
mor fodern ac, ers mis Medi, mae鈥檙 disgyblion wedi ffynnu yn eu hamgylchedd
newydd. Mae鈥檙 disgyblion a staff wrth eu bodd yn gweithio mewn amgylchedd mor
wych ac rydym ein dau yn gobeithio y bydd y cyfleuster o fudd, nid yn unig in
pobl ifanc lleol, ond hefyd y gymuned leol am nifer o flynyddoedd i ddod.
Ychwanegodd Mr Weir:
鈥淢ae鈥檙 cyfleuster newydd ffantastig hwn wedi helpu i symud ein gwelliannau
ymlaen ac mae Ysgol Treffynnon yn edrych ymlaen i dderbyn blwyddyn lawn o
ddisgyblion fis Medi 2017.
Ychwanegodd Mr Davies:
鈥淢ae wedi bod yn gyfnod eithriadol o dda ir ysgol gynradd ers Medi. Maer
niferoedd wedi cynyddu o 282 i 328 o ddisgyblion ar hyn o bryd. Mae hyn yn
gynnydd sylweddol ac rydym wedi dygymod 芒 hynny鈥檔 hawdd a hefyd rydym wedi
penodi athro ychwanegol ar gyfer y plant iau. Mae targedau disgyblion wedi eu
gosod ar draws yr ysgol yn y ddau gyfnod allweddol ac rydym yn gobeithio
sicrhau perfformiadau yn y chwartel uchaf ym Mlwyddyn 2 a Blwyddyn 6 erbyn
diwedd y flwyddyn academaidd.
Dywedodd Jim Parker, Rheolwr Gyfarwyddwr dros Galliford Try Building yn y
Gogledd Orllewin:
鈥淢ae wedi bod yn bleser gweithio gyda鈥檙 cyngor ar holl ysgolion oedd yn rhan o
adeiladur cyfleuster newydd eiconig hwn. I bawb o Galliford Try sydd wedi
gweithio ar y prosiect hwn, mae鈥檔 parhau鈥檔 foddhad enfawr i wybod y bydd y
disgyblion hyn yn elwa or cyfleusterau hyn am flynyddoedd i ddod.