Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwobrau Cyfeillgar i Ddementia yr Wyddgrug
Published: 22/02/2017
Cynhaliodd Grwp Llywio Cyfeillgar i Ddementia Fflint, ar y cyd 芒 Chyngor Sir y
Fflint, eu Gwobrau Busnes yn ddiweddar yng Nghaffi Cof Llys Jasmine, yr
Wyddgrug.
Roedd y digwyddiad yn ddathliad ar gyfer y deg busnes neu sefydliad yn yr
Wyddgrug sydd wedi bod yn llwyddiannus o ran cyflawni statws Gweithio tuag at
fod yn Gyfeillgar i Ddementia.
Maer busnesau hyn wedi addo o leiaf 4 cam gweithredu o unrhyw un or adrannau
ymrwymiad a restrir isod:
Ymrwymiad 1: Gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth staff (camau gweithredu yn
cynnwys: penodi hyrwyddwr dementia ar gyfer y sefydliad, gan roi dealltwriaeth
sylfaenol o ddementia i staff).
Ymrwymiad 2: Adolygu amgylchedd ffisegol y siop / adeilad (camau gweithredu yn
cynnwys: arwyddion clir yn y siop, mynedfeydd wediu goleuon dda).
Ymrwymiad 3: Cefnogi staff syn datblygu dementia neu yn gofalu am rywun 芒
dementia (mae camau gweithredu yn cynnwys: newid r么l y person, gan ddarparu
cwnsela yn fewnol).
Ymrwymiad 4: Cefnogir gymuned leol (camau gweithredu yn cynnwys: codi arian,
gwirfoddoli, partneriaethau elusen).
Enillwyr y Gwobrau oedd:
路 Byddin yr Iachawdwriaeth
路 Cyngor Tref yr Wyddgrug
路 Y Bwthyn
路 Dwy siop Boots yn y dref
路 Y Savoy
路 Llys Jasmine
路 Home Instead
路 Spavens
路 Canolfan Ofalwyr NEWCIS
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淒yma鈥檙 ail dro i ni gynnal y gwobrau hyn ac maent wedi bod yn llwyddiannus
iawn wrth wella proffil y cyflwr hwn a dangos beth y gall sefydliadau ei wneud
i geisio gwneud bywyd yn haws i bobl gyda dementia a鈥檜 teuluoedd. Maen
parhau鈥檙 gwaith gwych syn cael ei wneud ar draws y sir, er enghraifft agor
caffis cof.鈥
Dywedodd Cathy Peach, Cadeirydd grwp yr Wyddgrug:
鈥淢ae ein grwp wedi gweithion galed i godi ymwybyddiaeth o ddementia gyda
chymorth Cymdeithas Alzheimer ac mae wedi ymrwymo i weithio gyda busnesau
lleol, ysgolion a grwpiau cymunedol i sicrhau bod yr Wyddgrug yn lle ble mae
pobl 芒 dementia yn cael eu deall, eu parchu, eu cefnogi ac yn hyderus y gallant
gyfrannu at fywyd y dref.
鈥淢ae ein grwp wedi cael cefnogaeth ardderchog gan y T卯m yn Adran Gwasanaethau
Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint.鈥
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch 芒 Luke Pickering-Jones ar 01352 702655 neu
luke.pickering-jones@flintshire.gov.uk.