Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwesteion arbennig yn cael eu gwobrau mewn agoriad swyddogol
Published: 16/02/2017
Roedd gwesteion arbennig yn yr agoriad swyddogol Llys Custom House yng Nghei
Connah yn ddiweddar.
Ynghyd 芒鈥檙 pwysigion arferol a鈥檙 gwesteion arbennig oedd Tazmin Roberts-Lamb a
Logan Burdsall, disgyblion yn Ysgol Cae鈥檙 Nant, gyda鈥檜 pennaeth Mrs Fox-Parry.
Roedd Tazmin, disbygl ym mlwyddyn 6, a Logan, o flwyddyn 3, yn gyd-enillwyr
mewn cystadleuaeth a gynhaliwyd mewn ysgol gerllaw i enwi datblygiad newydd o
ddeuddeg ty cyngor sydd wedi cael eu hadeiladu ar hen safle Ysgol Custom House
Lane. Meddyliodd y ddau am yr enw Llys Custom House a chawsant eu gwobr, ar
ffurf talebau, oddi wrth Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton.
Dywedodd Mrs Fox-Parry:
鈥淎r ran ein hysgol, hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig 芒鈥檙
datblygiad hwn ac i Wates Residential am eu cyfraniad hael i鈥檔 hysgol.
Treuliais 21 mlynedd yn yr hen ysgol, 15 ohonynt fel pennaeth, cyn i ni symud
in hadeilad newydd sbon i fynyr l么n, bum mlynedd yn 么l. Mae鈥檙 datblygiad hwn
wedi dod 芒 bywyd newydd i鈥檙 ardal ac mae wedi鈥檌 adeiladu i gyd-fynd 芒 rhai o
nodweddion yr hen ysgol, er enghraifft y pyst gatiau tywodfaen.
鈥淵n ystod y gwaith adeiladu, gweithiodd y plant ar ddau fosaig haniaethol sydd
bellach ar un o waliau鈥檙 datblygiad, ynghyd ag arwydd yr hen ysgol. Byddwn yn
gallu dod 芒鈥檙 plant yma i weld yr hen ysgol, a fydd yn gyfle gwych iddynt ofyn
cwestiynau ac yna mynd yn 么l i ymchwilio i hanes eu hysgol a鈥檜 hardal leol.鈥
Dywedodd y Cyng. Shotton, fel y cyflwynodd y gwobrau i Tazmin a Logan:
鈥淩wyf wrth fy modd yn cyflwynor talebau hyn ir ddau ohonoch - gobeithiaf y
byddwch yn mwynhau eu gwario a llongyfarchiadau i chi am fathur enw gwych hwn
a鈥 gyfer y datblygiad newydd cyffrous hwn yng Nghei Connah.鈥
Mae datblygiad Llys Custom House y tai cyngor newydd cyntaf i gael eu hadeiladu
yng Nghymru ers dros 20 mlynedd.
Y Cyng. Shotton gyda Logan, Tazmin a Mrs Fox-Parry