Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Mynd i鈥檙 afael â baw ci
Published: 10/02/2017
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint adolygu a chymeradwyo adroddiad ynglyn
芒 chyflwyno rheolaethau llymach ar reoli cwn mewn mannau agored cyhoeddus pan
fydd yn cyfarfod yn nes ymlaen yn y mis hwn.
Fel a ddywedwyd eisoes, cynullwyd Grwp Tasg a Gorffen o Aelodau ynghyd yn 2016
i ystyried y cynlluniau a oedd ar gael i fynd ir afael 芒 baw ci, a oedd wedi
cael eu cyflwyno mewn mannau yn Lloegr a thramor, gan gynnwys cyflwyno
cynlluniau DNA cwn a chreu Gorchmynion Gwarchod Mannau Cyhoeddus (GGMC).
Yn dilyn trafodaeth lawn ym Mhwyllgor Trosolwg a Chraffur Cyngor ar yr
Amgylchedd, argymhellwyd ir Cabinet beidio 芒 chyflwyno cynllun DNA cwn ar hyn
o bryd, ond maer adroddiad yn argymell rhoi Gorchymyn Gwarchod Mannau
Cyhoeddus newydd ar waith yn lle鈥檙 Gorchymyn Rheoli Cwn cyfredol, a fyddai鈥檔
berthnasol i holl fannau agored y Sir.
Nid yw鈥檙 Gorchymyn Rheoli Cwn cyfredol ond yn nodi鈥檙 angen i berchnogion cwn
gael gwared 芒 baw eu ci o ardaloedd cyhoeddus. Bydd y Gorchymyn Gwarchod
newydd yn rhoi mwy o bwerau i鈥檙 Cyngor roi troseddau dynodedig eraill mewn
grym, fel gwahardd cwn yn llwyr neu orfodi cadw cwn ar dennyn mewn rhai mathau
o fannau agored.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet yr Amgylchedd a Dirprwy
Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae hwn yn gam cadarnhaol iawn i fynd ir afael 芒 baw ci, yn ogystal ag
ymdrin 芒 phroblemau eraill, fel cwn yn crwydron rhydd mewn ardaloedd chwarae i
blant, caeau chwaraeon wediu marcio neu ardaloedd hamdden penodol eraill. Er
ein bod yn cydnabod pwysigrwydd rhoi ymarfer corff i鈥檔 hanifeiliaid anwes, mae
angen cydbwysedd er mwyn sicrhau y gall pawb syn defnyddio ein mannau agored
wneud hynnyn ddiogel.