97色网

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gweinidog yn ymweld â phrosiect adfywio

Published: 07/02/2017

Bu i Carl Sargeant, AM ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, ymweld yn ddiweddar 芒 datblygiad yng Nghei Connah. Mae Cwrt Pen-y-Lan yn cynnwys sawl bloc o fflatiau a fflatiau deulawr, syn gymysgedd o gartrefi gwarchodol ar gyfer pobl hyn a thai anghenion cyffredinol. Mae鈥檙 ardal wedi dioddef o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac mae hynny wedi gwneud y trigolion yn bryderus tu hwnt. Nid yw鈥檙 Cyngor yn goddef ymddygiad o鈥檙 fath o gwbl. Ers dechrau鈥檙 flwyddyn ddiwethaf mae Cwrt Pen-y-Lan wedi ei weddnewid diolch i gyllid Lwfans Atgyweiriadau Mawr a Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid Llywodraeth Cymru. Mae鈥檙 prosiect yn un o nifer o brosiectau yn ardal Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid Glannau Dyfrdwy. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi darparu dros 拢7 miliwn ar gyfer prosiectau adfywio yng Nglannau Dyfrdwy ac mae oddeutu 拢450 mil yn cael ei ddefnyddio i wella Cwrt Pen-y-Lan. Mae Cyngor Sir Y Fflint hefyd wedi derbyn 拢5.050 miliwn drwy gynllun Lwfans Atgyweiriadau Mawr Llywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn ariannol 2016/17, syn cael ei ddefnyddio i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae鈥檙 Cyngor wedi ymgynghori 芒 budd-ddeiliaid allweddol, gan gynnwys tenantiaid, cynghorwyr tref a sir, swyddogion tai a鈥檙 heddlu lleol. Arweiniodd hyn at nodi meysydd allweddol ar gyfer eu gwella, gan gynnwys: 路 Gwella diogelwch tenantiaid drwy estyn y ffensys, creu cymunedau caeedig a defnyddio TCC; 路 Dymchwel garejys i greu gardd gymunedol; 路 Lleihau鈥檙 swn a glywir drwy osod ffenestri newydd ac insiwleiddio; 路 Gwella鈥檙 meysydd parcio; 路 Ailwampio鈥檙 ystafell gymunedol. Mae鈥檙 gwaith ar fin dod i ben ac mae鈥檙 trigolion wrth eu bodd gyda鈥檙 gwelliannau. Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge, a dywysodd y Gweinidog o gwmpas yr ardal ar ei newydd gwedd: 鈥淩ydw i鈥檔 hynod falch o鈥檙 hyn y mae鈥檙 Cyngor wedi eu cyflawni yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf ac rydw i鈥檔 falch iawn o鈥檙 gwahaniaeth rydym ni wedi ei wneud i wella cartrefi trigolion ein sir. Rydym ni wedi gweithio鈥檔 agos gyda Llywodraeth Cymru i wella ein stoc tai bresennol drwy roi cynlluniau Safon Ansawdd Tai Cymru a Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid ar waith. Y llynedd aethom gam ymhellach ac adeiladu鈥檙 tai cyngor cyntaf ers cenhedlaeth, ac maer rhaglen honno yn parhau yn 2017 ac i鈥檙 dyfodol. Meddai Ysgrifennydd y Cabinet: 鈥淢ae鈥檙 cartrefi rydw i wedi eu gweld heddiw yn Sir y Fflint yn enghreifftiau gwych o sut mae awdurdodau lleol yn gwneud mwy na darparu to uwch pennau pobl. 鈥淢ae Safon Ansawdd Tai Cymru yn sicrhau bod gan 220,000 a mwy o aelwydydd yng Nghymru gartref diogel a chysurus. Mae hefyd yn hanfodol ein bod ni fel llywodraeth yn cyrraedd nifer o鈥檔 nodau eraill, gan gynnwys gwella iechyd a lles y genedl a chreu swyddi newydd a darparu cyfleodd hyfforddi a fydd yn ein helpu ni i fynd i鈥檙 afael 芒 thlodi. 鈥淢ae鈥檙 gwelliannau yng Nghwrt Pen-y-Lan, sydd hefyd wedi eu hariannu drwy raglen Llefydd Llewyrchus Llawn Addewid, yn enghreifftiau gwych o sut y gall gwella cartrefi a chymunedau hefyd wella bywydau pobl.鈥