97色网

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor yn Ariannu Rhaglen Gyfalaf

Published: 12/01/2017

Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol Cyngor Sir y Fflint yn ystyried adroddiad ar Raglen Gyfalaf y Cyngor 2017/18 - 2019/20, pan fydd yn cyfarfod dydd Gwener, 20 Ionawr. Mae鈥檙 Rhaglen Gyfalaf yn cefnogi asedau isadeiledd ac adeiladau鈥檔 bennaf (e.e. priffyrdd ac ysgolion) a buddsoddi mewn modelau gwasanaethau newydd neu wediu hail-fabwysiadu (e.e. hamdden a gofal cymdeithasol). Mae鈥檙 buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig wedi鈥檜 halinio 芒 chynlluniau busnes gwasanaeth portffolio a鈥檙 Cynllun Gwella. Mae rhai o鈥檙 buddsoddiadau allweddol wedi鈥檜 hamlinellu isod: 路 Mae Ysgol Uwchradd Castell Alun ac ysgol gynradd Glan Aber wedi鈥檜 nodi fel y rhai 芒鈥檙 anghenion mwyaf brys, gan fod angen estyniad ac ailfodelu鈥檙 adeiladau cyfredol. Mae buddsoddiad sydd wedi dod i gyfanswm o 拢4.6 miliwn wedi鈥檌 ddyrannu ar gyfer gwaith yng Nghastell Alun a Glan Aber yn elwa o fuddsoddiad sydd bron i 拢1 miliwn. o Mae Ysgol Uwchradd Castell Alun am gael estyniad, gyda darpariaeth bloc Celf a Dylunio a Thechnoleg dau lawr, ac ailfodelu ardaloedd eraill. Dyddiad cychwyn, blwyddyn ariannol 2018/19. o Bydd ysgol gynradd Glan Aber, Bagillt, yn cael addasur neuadd bresennol i ddarparu dau fan dysgu addas, ac adeiladu neuadd newydd, syn addas i nifer y plant ar y gofrestr, ynghyd ag addasiadau bach i dair ystafell ddosbarth. Dyddiad cychwyn, blwyddyn ariannol 2017/18. 路 Mae cyfanswm o 拢4 miliwn o fuddsoddiad wedi鈥檌 ddyrannu ar gyfer adeiladu cyfleuster gwasanaethau dydd anableddau dysgu newydd sbon, a fydd yn cymryd lle canolfan Glanrafon yn Queensferry. Maen rhan o ymrwymiad y Cyngor i ofal dydd ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth. 路 Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl 鈥 mae dyraniadau blynyddol o bron i 拢1.5 miliwn wedi鈥檜 nodi ar gyfer addasiadau, i alluogi preswylwyr i barhau i fyw鈥檔 annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. 路 Mae cynnydd o 拢100,000 o 2017/18 ymlaen i gyflwyno rhaglen uwchraddio toiledau yn yr ysgolion uwchradd a chynradd. 路 Mannau chwarae a chaeau chwaraeon synthetig 鈥 mae dyraniad ychwanegol o bron i 拢900,000 dros dair blynedd wedi鈥檌 ganfod i ariannu cyfarpar chwarae newydd, uwchraddiadau i fannau chwarae a disodli arwyneb caeau chwaraeon synthetig, sydd mewn cyflwr gwael. 路 Cynnal gwelliannau mewn canolfannau hamdden a llyfrgelloedd, a fydd yn gwella鈥檙 ddarpariaeth. Cyfanswm y buddsoddiad ar gyfer y gwelliannau hyn yw 拢454,000 Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, yr Aelod Cabinet Cyllid: 鈥淓r gwaethaf y cyngor yn wynebu her ariannol ddigynsail, rydym wedi nodi rhaglen gyfalaf glir ac uchelgeisiol dros y pedair blynedd nesaf ar gyfer isadeiledd ac ysgolion. Rwy鈥檔 falch y byddwn yn gallu cynnal gwelliannau yn y canolfannau hamdden a llyfrgelloedd, buddsoddiad sylweddol yn ein hysgolion a darparu canolfan ddydd anabledd dysgu newydd or radd flaenaf, sy鈥檔 dangos bod Sir y Fflint yn gyngor blaengar ac arloesol sy鈥檔 buddsoddi yn lles ein sir.鈥