97色网

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Polisi Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl

Published: 15/11/2021

Mae Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl yn grant gorfodol i helpu unigolion i fyw gydag anabledd a鈥檙 gost o addasu eu cartrefi i鈥檞 galluogi i barhau i fyw yn eu cartrefi gyda鈥檙 uchafswm o annibyniaeth.

Mae Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl ar gael i berchnogion-preswylwyr, tenantiaid preifat, tenantiaid yr awdurdod lleol ac, ar gyfer tenantiaid mewn tai cymdeithasol, mae trefniadau ar wah芒n ar waith gyda鈥檜 darparwr tai.

Cafodd y polisi ei adolygu a鈥檌 gymeradwyo diwethaf ym mis Hydref, 2019. Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo ers hynny i nodi a gweithredu gwelliannau i gyflymu'r ddarpariaeth, a dygwyd argymhellion ymlaen, a'u cymeradwyo ym mis Medi 2020. Mae'r newidiadau cymeradwy wedi cael eu hymgorffori i'r polisi diwygiedig.

Uchafswm y grant sydd ar gael yng Nghymru yw 拢36,000 fesul dyraniad. Pan mae鈥檙 cais ar gyfer plentyn, neu mae鈥檙 ymgeisydd yn derbyn budd-daliadau penodol cymwys, nid oes prawf modd, a bydd cost addasiad hyd at uchafswm y grant yn cael ei ddyfarnu鈥檔 gyffredinol. Ar gyfer ceisiadau eraill, bydd swm yn grant yn amrywio o ddim i uchafswm y grant, yn dibynnu ar gostau鈥檙 gwaith cymeradwy, ac amgylchiadau ariannol yr ymgeisydd.听

Bydd prawf modd yn cael ei gynnal i sefydlu, yn seiliedig ar amgylchiadau ariannol yr ymgeisydd, a fydd angen i鈥檙 ymgeisydd wneud cyfraniad ariannol at gostau鈥檙 addasiad.

Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:

鈥淢ae鈥檙 adolygiad wedi nodi nad oedd proses ymgeisio ar gyfer Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl y Cyngor yn alinio gydag arferion cyfredol, a bod diffyg eglurder ynghylch y meini prawf oedd yn ofynnol ar gyfer y grant.

鈥淢ae swm sylweddol o waith wedi cael ei gynnal i fynd i鈥檙 afael 芒, a gweithredu鈥檙 argymhellion sydd wedi鈥檜 cynnwys yn yr adolygiad.听

"Mae darpariaeth gwasanaeth wedi cael ei wella i sicrhau fod gan ein cwsmeriaid, a鈥檙 gweithwyr proffesiynol sy鈥檔 eu cefnogi, yr holl wybodaeth berthnasol cyn gynted ag y bo modd."

Bydd cais i Gabinet y Cyngor i gefnogi'r polisi diwygiedig yn ei gyfarfod ar 16 Tachwedd.