97色网

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn ymuno ag ymgyrch newydd i fynd i鈥檙 afael â baw cwn 

Published: 28/10/2021

Dog fouling.jpgCyngor Sir y Fflint yn annog perchnogion cwn i wneud y peth iawn a chodi baw eu hanifeiliaid anwes fel rhan o ymgyrch cenedlaethol newydd gan Cadwch Gymru鈥檔 Daclus.听

Er yr amcangyfrifir bod naw allan o ddeg o berchnogion cwn yn glanhau ar 么l eu hanifeiliaid anwes, mae baw ci yn dal yn broblem mewn cymunedau ar draws y wlad.听 Nod ymgyrch Cadwch Gymru鈥檔 Daclus yw codi ymwybyddiaeth o鈥檙 peryglon iechyd sydd yn gysylltiedig 芒 baw cwn; nid yn unig i bobl ond hefyd i anifeiliaid fferm ac anifeiliaid anwes eraill.听

Gall baw ci sydd wedi ei adael ar 么l gario bacteria niweidiol all barhau yn y pridd ymhell ar 么l iddo bydru.听

Mae鈥檙 ymgyrch cenedlaethol yn cael ei gynnal fel rhan o Caru Cymru 鈥 mudiad cynhwysol sydd yn cael ei arwain gan Cadwch Gymru鈥檔 Daclus ac awdurdodau lleol i ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.听

Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chludiant Sir y Fflint, y Cynghorydd Glyn Banks:

鈥淢ae baw ci wedi bod, ac yn parhau i fod yn broblem yn ein cymunedau.听 听Er fod nifer o鈥檔 perchnogion cwn yn glanhau ar 么l eu cwn, rydym yn cefnogi鈥檙 ymgyrch hwn i apelio gyda鈥檙 lleiafrif bychan o berchnogion cwn anghyfrifol i gadw ardaloedd cyhoeddus yn l芒n rhag baw cwn.鈥

Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru鈥檔 Daclus:听

鈥淩ydym yn llawn cyffro yn lansio鈥檙 ymgyrch pwysig hwn gyda鈥檔 partneriaid mewn awdurdodau lleol.听 Fel cenedl sydd yn caru cwn, dylem i gyd fod yn ymwybodol nad llanast amhleserus yn unig yw baw ci, gall fod yn beryglus.

鈥淩ydym yn annog y lleiafrif bach o berchnogion cwn anghyfrifol i wneud y peth iawn.听 Trwy beidio 芒 chodi baw eich ci, gallech fod yn peryglu pobl, anifeiliaid fferm, a鈥檔 hanifeiliaid anwes annwyl.听 Bagiwch, biniwch a gadael olion pawen yn unig pan fyddwch allan.鈥