97色网

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Blodau ar gyfer ardaloedd trefol

Published: 25/08/2021

IMG_0116.JPGMae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i greu ardaloedd ar gyfer bioamrywiaeth ar draws y sir.

Aeth Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts, yr aelod lleol, y Cynghorydd Michelle Perfect a鈥檙 AS Rhanbarthol, Carolyn Thomas, i ymweld ag un dd么l blodau gwyllt o鈥檙 fath yn y Fflint yn ddiweddar. Roedd Carolyn Thomas yn rhan allweddol o ddatblygu鈥檙 rhaglen hon pan oedd hi鈥檔 Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad gyda Chyngor Sir y Fflint.

Mae鈥檙 dolydd blodau gwyllt trefol hyn yn creu ardal liwgar o ddiddordeb i drigolion, yn ogystal 芒 chynefin hollbwysig i wenyn, glo每nnod byw a phryfaid.

Dywedodd y Cynghorydd Roberts:

鈥淩oedd yn bleser gweld y gwaith sydd wedi鈥檌 wneud wrth greu ardal ar gyfer bioamrywiaeth. Mae dolydd blodau gwyllt yn cynnig cynefin ddeniadol i bawb ei mwynhau. Rydym wedi efelychu hyn mewn ardaloedd eraill yn y sir, gan weithio gyda chynghorau tref a chymuned a gwirfoddolwyr, gan fod angen rheolaeth ofalus er mwyn cynnal a chadw鈥檙 ardal.鈥

Mae D么l y Coroni yn Neuadd y Sir yn yr Wyddgrug wedi bod dan reolaeth cadwraeth am dros 6 mlynedd, mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.听

Fe gafodd y gwaith hwn ei ariannu gan grant Llywodraeth Cymru trwy Gronfa Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn 2020 a chafwyd cyllid ychwanegol er mwyn gallu parhau eleni, gan ganolbwyntio ar greu safleoedd blodau gwyllt ar ein rhwydwaith trafnidiaeth trefol.

Mae鈥檙 prosiectau鈥檔 canolbwyntio ar wella gwerth bioamrywiaeth lleoedd lle mae pobl yn byw, teithio a gweithio.听 听Trwy brosiect cyllid grant ychwanegol, Partneriaethau Natur Lleol Cymru, rydym wedi gallu mapio 80 safle blodau gwyllt ar draws ein rhwydwaith ffyrdd.听

Mae鈥檙 gwaith hwn yn ategu ein trefn o dorri gwair yn llai aml, a defnyddio llai o chwynladdwyr 鈥 defnyddir dull amgen o reoli chwyn heb ddefnyddio cemegau bellach, mewn safleoedd wedi鈥檜 targedu, gyda chanlyniadau cadarnhaol.听

IMG_0113.JPG听 听 听听 IMG_0125.JPG