Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Canolfan Gymorth Covid-19 Shotton
Published: 16/07/2021
Mae Cyngor Sir Y Fflint, ynghyd â phartneriaid, yn agor Canolfan Gymorth Covid yn Shotton.
Mae’r ganolfan yn agor ei drysau am y tro cyntaf ar ddydd Llun, 19 Gorffennaf o 9am-12.30pm yn EglwysÌýRivertown, Ffordd Caer y Gorllewin,ÌýCH5 1BXÌýShottonÌýac ar agor i holl breswylwyr Sir y Fflint.Ìý
Bydd y ganolfan ar agor bob dydd Llun, Mercher a Gwener 9am-12.30pm.
Gallwch alw heibio i gasglu eich prawf llif unffordd am ddim a bydd nifer o asiantaethau a sefydliadau wrth law i gynnig cyngor a chymorth ar y materion canlynol:Ìý
• Iechyd meddwlÌý
• Eich cyllidÌý
• Tanwydd a gwresogi aelwyd
• Cyngor ar fwydÌý
• Cymorth gyda defnyddio’r we
Ein nod yw agor canolfannau tebyg mewn ardaloedd eraill o Sir y Fflint yn y dyfodol.
Ìý