97É«Íø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Tîm Profi, Olrhain a Diogelu Sir y Fflint yn ymateb i gynnydd mewn achosion o’r Coronafeirws yn ardal Y Fflint.

Published: 24/06/2021

97É«Íø together.jpgMae Tîm Profi, Olrhain a Diogelu Sir y Fflint wedi nodi nifer gynyddol o achosion o’r Coronafeirws yn ardal Y Fflint.Ìý

Mae sawl achos positif wedi eu cadarnhau ac mae nifer o bobl sydd wedi bod mewn cysylltiad â’r achosion hynny hefyd yn hunan-ynysu.Ìý

Wrth i gyfyngiadau lacio, mae Cyngor Sir Y Fflint yn annog trigolion i barhau i ddilyn y canllawiau a chadw’n ddiogel drwy:Ìý

•Ìý Ìý Ìý Ìý ÌýGadw pellter cymdeithasol ( dwy fetr)

•Ìý Ìý Ìý Ìý ÌýGolchi eu dwylo’n amlÌý

•Ìý Ìý Ìý Ìý ÌýGwisgo mwgwd pan fydd angenÌý

•Ìý Ìý Ìý Ìý ÌýSicrhau fod eu cartref neu eu gweithle wedi ei awyru yn ddigonolÌý

Atgoffir trigolion hefyd mai dim ond tair aelwyd all ffurfio aelwyd estynedig.Ìý

Os ydych yn byw yn ardal Y Fflint ac os ydych chi neu aelod o’ch teulu yn dangos symptomau Coronafeirws, dylech archebu prawf Coronafeirws:

Meddai Andrew Farrow, Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi;Ìý

“Byddem hefyd yn annog unrhyw un sydd yn ystyried mynychu’r ffair yn Y Fflint yn nes ymlaen heddiw neu dros y penwythnos i gymryd Prawf Llif Unffordd cyn iddynt fynd, ond dim ond os nad oes ganddynt unrhyw symptomau coronafeirws. Mae citiau profion llif unffordd ar gael o swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu ar Stryd yr Eglwys, Y Fflint, a bydd citiau ar gael ar safle’r ffair hefyd, tra bydd yn cael ei chynnal.Ìý

“Dydy ffeiriau ddim yn gorfod cael ein caniatâd i ddigwydd, gan eu bod yn cael eu caniatáu o dan y lefel Rhybudd cyfredol yng Nghymru. Mae Swyddogion o’n Tîm Diogelu Cymunedol a Busnes yn gweithio gyda threfnwyr y ffair i sicrhau fod y digwyddiad yn cyd-fynd â chyfyngiadau covid.Ìý

Atgoffir unrhyw un sydd â symptomau neu sydd wedi derbyn canlyniad prawf llif unffordd positif fod yn rhaid i bawb o’u haelwyd hunan-ynysu ar unwaith hyd y bydd canlyniad eu prawf PCR wedi ei dderbyn.Ìý

Ìý