97色网

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Y Cyngor yn hwyluso鈥檙 broses ymgeisio am gyfran o gronfeydd cymunedol y DU

Published: 14/04/2021

Money small.jpgMae Cyngor Sir y Fflint yn gwahodd sefydliadau i gyflwyno ceisiadau a allai gael eu cynnwys yng nghais y Cyngor am gyfran o 拢3 miliwn o Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU.

Yn ei gyllideb ar 3 Mawrth, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys, Rishi Sunak AS, y Gronfa Adnewyddu Cymunedol a fyddai ar gael am flwyddyn yn y DU.听 Y bwriad yw ei defnyddio i brofi dulliau gweithredu newydd er mwyn symud oddi wrth Gronfeydd Strwythurol yr UE, i baratoi ar gyfer cyflwyno Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn 2022/23.听

Fel nifer o awdurdodau lleol eraill, bydd Cyngor Sir y Fflint yn chwarae r么l allweddol yn y gwaith o hwyluso鈥檙 gronfa newydd hon.听 Yn ogystal 芒 gwahodd ceisiadau, bydd y Cyngor hefyd yn gyfrifol am arfarnu a dethol ceisiadau ac, os ydynt yn llwyddiannus, dosbarthu鈥檙 cyllid i sefydliadau sydd wedi ymgeisio a monitro eu cyflawniad a鈥檜 perfformiad.

Dylai pob prosiect fod yn seiliedig yn bennaf, neu鈥檔 gyfan gwbl, ar refeniw. Mae Llywodraeth y DU yn ceisio cefnogi ystod o brosiectau yn 么l them芒u a maint ond mae鈥檔 annog prosiectau mawr sy鈥檔 werth o gwmpas 拢500,000 lle bo hynny鈥檔 ymarferol.

Bydd angen i鈥檙 ceisiadau roi ffocws ar fuddsoddi mewn o leiaf un o them芒u blaenoriaeth y Gronfa, sef buddsoddi mewn sgiliau, busnes lleol, cymunedau a lle neu gefnogi pobl i gael gwaith.

Bydd y Gronfa ar gael yn 2021/22 yn unig a bydd angen i bob prosiect fod yn barod i ddechrau ar ddiwedd yr haf eleni a bod wedi鈥檜 cwblhau erbyn mis Mawrth 2022.

Dylai unrhyw sefydliad sy鈥檔 dymuno ymgeisio anfon eu cais at Gyngor Sir y Fflint erbyn 5.00pm ddydd Gwener 14 Mai 2021 fan bellaf.

Mae mwy o wybodaeth a dolenni cyswllt i'r dogfennau ymgeisio perthnasol ar gael ar wefan y Cyngor: .