97色网

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Busnes o Sir y Fflint yn diolch i鈥檙 gymuned am eu cefnogaeth yn ystod y clo mawr 

Published: 13/04/2021

Roedd siopa鈥檔 lleol yn allweddol i lawer o fusnesau trwy gydol y pandemig COVID, a dim ond oherwydd cefnogaeth eu cymunedau lleol y llwyddodd rhai ohonynt i oroesi.

Ar ddiwedd y clo mawr cyntaf, gwelodd llawer o fusnesau fod arferion cwsmeriaid wedi aros yr un fath, a鈥檜 cwsmeriaid yn dal i brynu gennyn nhw yn lle dychwelyd at y cwmn茂au cadwyn cenedlaethol.

Yn 么l Barclaycard, dewisodd llawer o bobl brynu oddi wrth gwmn茂au lleol yn ystod y pandemig, gyda 57% yn mynegi dymuniad i gefnogi rhagor ar fusnesau lleol sy鈥檔 agos atynt o ganlyniad i鈥檙 cyfyngiadau.

Mae perchnogion siopau yn diolch i鈥檞 cymunedau am eu cymorth dros y 12 mis diwethaf ac yn annog pobl i barhau i鈥檞 cefnogi fel o鈥檙 blaen.

KFP_8642.JPGMae Ben Hartley yn rheolwr siop deuluol Hartley鈥檚 sy鈥檔 gwerthu ffrwythau a llysiau ar stryd fawr Treffynnon. Fe ddechreuodd y busnes bedair blynedd yn 么l wedi iddo gael ei ysbrydoli gan ei daid oedd yn gwerthu cynnyrch mewn marchnadoedd.

Meddai:

"Rydym yn hynod ddiolchgar i鈥檙 cyhoedd am eu cefnogaeth. Mae rhywbeth a ddechreuodd i rai pobl fel cam dros dro bellach wedi datblygu i fod yn ddewis cyntaf.

"Mae pob archeb yn bwysig, a phrynu gyda ni yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Er bod archfarchnadoedd mawr o鈥檔 hamgylch yn codi prisiau is, mae pobl wedi gweld ein bod ni yn cynnig ansawdd gwell a mwy o amrywiaeth.

"Ar ddechrau鈥檙 clo mawr, roedd gennym 200 o archebion y dydd ac roeddem yn danfon cynnyrch i gwsmeriaid 15 i 16 gwaith y dydd, o gymharu 芒 chwech o weithiau cyn y cyfnod COVID. Bu ein t卯m bychan yn gweithio鈥檔 galed o 4am tan 9pm dros gyfnod y clo i wneud yn siwr fod pobl yn cael eu harchebion.

"Roedd yr ysbryd cymunedol i鈥檞 weld yn glir hefyd yn ystod y ffocws ar brydau ysgol am ddim. Rhoesom nifer o flychau ffrwythau a llysiau am ddim tu allan y siop i helpu teuluoedd oedd mewn trafferthion. Mewn ymateb, daeth cwsmeriaid i鈥檙 siop a gadael arian ger y til i gefnogi鈥檙 gwaith.

"Ein nod oedd llwyddo i dalu鈥檙 rhent gyda鈥檔 gwasanaeth danfon ffrwythau a llysiau, ac fe lwyddom i wneud hynny, diolch i bawb a鈥檔 cefnogodd."

Wrth edrych tua鈥檙 dyfodol, mae Ben yn annog trigolion Sir y Fflint i barhau i siopa gyda busnesau lleol fel y bydd y cyfyngiadau Covid yn cael eu llacio, gan fod cymaint o fasnachwyr yn ymladd am eu heinioes ariannol.

Ychwanegodd:

"Nid yw cwmn茂au lleol yn 么l ar eu traed hyd yma. Mae gwir angen i bobl barhau i brynu oddi wrth gwmn茂au lleol annibynnol er mwyn helpu perchnogion a staff sy鈥檔 gweithio mor galed i barhau tu hwnt i鈥檙 pandemig.

"Mae prynu efo ni hefyd yn helpu busnesau eraill lleol. Rydym yn falch o fedru hyrwyddo brandiau Sir y Fflint, er enghraifft daw ein tatws o Faesglas.

"Nid dim ond ffrwythau a llysiau sydd gennym ar werth. Edrychwn ymlaen at groesawu pobl yn 么l i鈥檔 ystafell de gyda鈥檌 bwydlen caffi amrywiol, y gwyddom y bydd pobl wrth eu bodd yn ei blasu.

"Mae ein neges yn syml: da chi, daliwch ati i siopa鈥檔 lleol. Mae鈥檔 gwneud mwy o wahaniaeth nag a dybiwch."

KFP_8587.JPG