97色网

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Penderfyniad ar Welliannau i Stryd Fawr yr Wyddgrug

Published: 11/02/2021

Yn ddiweddar, ymgynghorodd Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Tref yr Wyddgrug ar gynigion i greu system unffordd barhaol ar Stryd Fawr Isaf yr Wyddgrug er mwyn gwella鈥檙 amgylchedd i gerddwyr a beicwyr.听

Roedd ymateb ardderchog i鈥檙 ymgynghoriad gyda dros 300 o ymatebion wedi鈥檜 derbyn yn ogystal 芒鈥檙 sylwadau a wnaed ar y cyfryngau cymdeithasol.

Er bod nifer o ymatebion o blaid holl neu ran o鈥檙 cynllun arfaethedig, roedd nifer o bryderon sylweddol am yr effaith posibl y bydd y traffig dadleoledig yn ei gael ar strydoedd preswyl cyffiniol a鈥檙 ymyrraeth dros dro wrth i鈥檙 gwaith gael ei gynnal.

Felly, penderfynwyd peidio 芒 gweithredu鈥檙 system unffordd arfaethedig a l么n feicio ar y Stryd Fawr Isaf. Yn hytrach, bydd y Cyngor yn canolbwyntio ar wella鈥檙 rhwydwaith feicio ehangach.

Ni fydd y cynnig i adnewyddu鈥檙 goleuadau traffig ar bob pen o鈥檙 Stryd Fawr Isaf a鈥檙 gwelliannau i鈥檙 amgylchedd i gerddwyr yn cael ei weithredu yn y dyfodol agos er mwyn atal ymyrraeth i鈥檙 dref wrth iddo adfer o sefyllfa Covid-19. Fodd bynnag, byddent yn cael eu symud ymlaen rhyw dro yn y dyfodol pan fydd cyllid yn caniat谩u hynny.

Hoffai鈥檙 Cyngor ddiolch i bawb a gymerodd amser i ymateb i鈥檙 ymarfer ymgynghori.