Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Pwll Nofio Cei Connah
Published: 10/12/2015
Bydd trefniadau ar gyfer Pwll Nofio Cei Connah yn y dyfodol yn cael eu
hystyried gan Gabinet Cyngor Sir y Fflint pan fydd yn cyfarfod ddydd Mawrth 15
Rhagfyr.
Mae鈥檙 Panel Trosglwyddo Asedau Cymunedol, syn cynnwys Cyngor Gwirfoddol Lleol
Sir y Fflint a Chyngor Sir y Fflint, wedi argymell y dylai trefniadau
trosglwyddo asedau cymunedol fynd yn eu blaenau ar gyfer y cyfleuster ac y
dylai Cambrian Aquatics, y sefydliad cymunedol dielw a sefydlwyd gan Glwb Nofio
Cei Connah a Nofio Clwyd, redeg y Pwll.
Ar gyfer y flwyddyn gyntaf, argymhellir y bydd y Cyngor Sir yn cyfrannu 拢65,000
at y costau rhedeg ynghyd ag un cyfraniad o gyllid cyfalaf gwerth 拢100,000.
Bydd y cymorth ariannol hwn yn dibynnu ar y gwaith a gwblheir dros y misoedd
nesaf gan Cambrian Aquatics a Chyngor Sir y Fflint er mwyn sicrhau y gellir
trosglwyddo鈥檙 pwll yn ddiogel ac mewn ffordd syn gweithio yn y dyfodol
rhagweladwy.
Rhan allweddol o hyn fydd ymgysylltu a thrafod 芒 staff i helpu i gadarnhau鈥檙
ffordd y bydd y pwll nofio鈥檔 gweithredu.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet dros Hamdden:
Credwn fod y cynnydd y mae Cambrian Aquatics wedii wneud mewn cyfnod cymharol
fyr yn sylweddol sy鈥檔 rhoi hyder i鈥檔 galluogi i wneud yr argymhellion hyn ir
Cabinet. Byddwn yn sicrhau bod y gwaith dros y misoedd nesaf yn rhoi鈥檙 cyfle
gorau i鈥檙 pwll lwyddo yn y dyfodol .