Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ymgyrch y Rhuban Gwyn
Published: 26/11/2015
Daeth aelodau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir y Fflint ynghyd ar 25
Tachwedd i ddangos cefnogaeth i ddiwrnod rhyngwladol y Rhuban Gwyn, a dangos
ymrwymiad i roi terfyn ar drais yn erbyn merched.
Cyngor Sir y Fflint oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ennill Gwobr
Tref y Rhuban Gwyn i Gynghorau, ac fel rhan o鈥檌 ymrwymiad i ddileu trais
domestig, mae wedi cyflwyno polisi yn y gweithle gan ddatgan nad yw cam-drin
domestig yn dderbyniol.
Dywedodd Kevin Jones, yr Aelod Cabinet dros Reoli Gwastraff, Strategaeth,
Diogelu鈥檙 Cyhoedd a Hamdden:
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn yn frwd. Drwy
hyrwyddo digwyddiadau fel hyn mae鈥檙 Cyngor yn atgyfnerthu鈥檙 neges bod trais a
thrais domestig yn wrthun a bod yn rhaid ei atal.