Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Rhoi Cymru ar y Map
Published: 13/11/2015
Mae trigolion yn Sir y Fflint yn cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn prosiect
Cymreig cyffrous i roi mapiau degwm ar-lein.
Maer mapiau plwyf lleol 19 ganrif gynnar hyn ar wybodaeth syn mynd gyda hwy,
yn amhrisiadwy i ddangos y dirwedd, defnydd tir a gwneuthuriad cymdeithasol yr
amser.
Mae鈥檙 Prosiect Cynefin yn cynhyrchu delweddau digidol or mapiau ond mae angen
help oddi wrth y cyhoedd i drawsgrifio鈥檙 testun a鈥檙 atodlenni au cysylltu 芒
mapiau modern. Nid ywn anodd i鈥檞 wneud ac mae gwirfoddolwyr yn gallu gweithio
ou cyfrifiadur eich hunain gartref ar unrhyw adeg.
Mae Archifdy Sir y Fflint ym Mhenarl芒g yn cynnal gweithdai mis nesaf i ddangos
i unrhyw un a fyddain hoffi cymryd rhan yn y prosiect sut y gallant helpu.
Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal gan Carys Evans o Brosiect Cynefin ac wedi eu
trefnu yn dilyn poblogrwydd gweithdai a gynhaliwyd ym mis Medi.
Mae鈥檔 rhaid archebu ar gyfer y sesiynau 10am tan 4pm ddydd Mercher 2 ac 16 o
Ragfyr er mwyn sicrhau bod pawb yn cael rhywfaint o sylw un-i-un i allu gwneud
y gorau ou hamser.
Dywedodd yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Chris Bithell:
Mae hwn yn gyfle gwych i drigolion Sir y Fflint gymryd rhan mewn prosiect
cyffrous a gwerthfawr i ddod 芒n hanes yn fyw.
I archebu lle cysylltwch 芒 Carys Evans ar 01970 632416