Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Llys yn anfon preswylwyr o Sir y Fflint i garchar am beidio â thalur Dreth Gyngor
Published: 16/09/2015
Mae gofyn i dros 67,000 o breswylwyr yn Sir y Fflint dalu鈥檙 Dreth Gyngor ac er
fod y mwyafrif ohonynt yn talu eu biliau, mae nifer fach sy鈥檔 gwrthod talu
neu鈥檔 esgeuluso eu taliadau.
Mewn achosion eithriadol, mae preswylwyr sydd wedi bod yn y llys ar gyfer
gwrandawiadau Gorchymyn Dyled, ond sy鈥檔 dal i wrthod neu esgeuluso eu taliadwy,
ambell waith yn cael eu cyfeirio鈥檔 么l at y llys fel rhan o wrandawiadau
traddodi.
Gofynnir i鈥檙 llys wedyn ystyried p鈥檜n a yw鈥檙 preswylydd yn euog o wrthod yn
fwriadol neu o esgeulustod ar fai. Os yw鈥檙 Llys yn canfod fod preswylydd wedi
gwrthod talu鈥檔 fwriadol neu鈥檔 esgeulus, mae gan yr Ynadon rymoedd i roi dedfryd
o garchar i鈥檙 preswylydd hyd at uchafswm o 90 diwrnod.
Mae carchariad diweddar dau o breswylwyr Sir y Fflint, un am 90 diwrnod ac un
arall am 40 diwrnod, am esgeuluso eu biliau鈥檙 Dreth Gyngor wedi amlygu pa mor
bwysig yw gwneud taliadau neu ddod i gytundeb talu synhwyrol gyda鈥檙 Cyngor o
leiaf.
Meddai Clare Budden, Prif Swyddog Cymuned a Menter: 鈥淢ynd ag achosion i鈥檙 llys
yw鈥檙 dewis olaf bob tro ac mae鈥檔 well gennym weithio gyda phreswylwyr neu eu
gweithwyr cyngor dyledion i ddatrys problemau talu cyn i achosion gael eu
cyfeirio鈥檔 么l i鈥檙 llysoedd. Byddwn bob amser yn erlyn y rheiny sy鈥檔 methu neu
sy鈥檔 gwrthod talu鈥檙 Dreth Gyngor, ac fel mae鈥檙 achosion hyn yn dangos, gall
methu 芒 thalu鈥檔 barhaus arwain at ganlyniadau difrifol neu garchar hyd yn oed.鈥