Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwella ffyrdd Sir y Fflint
Published: 21/08/2015
Bydd Cyngor Sir y Fflint yn dechrau gweithio鈥檔 fuan ar nifer o welliannau a
fydd yn helpu i gynnal cyflwr y rhwydwaith priffyrdd, a aseswyd fel y rhai
gorau a gynhelir yng Nghymru yn 2014. Bydd rhaglenni eleni, sydd gydai gilydd
werth tua 拢1 miliwn, yn gweld gwelliannau i 30 o ffyrdd pellach
neu rannau o ffyrdd ar draws y sir.
Byddant yn cynnwys y canlynol:
路 Rhaglen ail-wynebu priffyrdd ar ffyrdd syn gofyn am waith atgyweirio helaeth
路 Rhaglen trin wyneb priffyrdd, wedi鈥檌 rhagflaenu gan waith trwsio helaeth, a
fwriadwyd i wella ffyrdd gwledig yn bennaf.
路 Rhaglen trwsio priffyrdd a fydd yn darparu cam atgyweirio parhaol i鈥檙 ffyrdd
hynny nad oes angen triniaeth ail-wynebu lawn.
路 Rhaglen s锚l slyri troedffordd a fydd yn gwella cyflwr troedffyrdd trefol y
Cynghorau ymhellach
Daeth arian Benthyca Darbodus Llywodraeth Cymru ar gyfer cynnal a chadw
priffyrdd i ben ym mis Mawrth, ac mae pob un or rhaglenni hyn yn cael eu
hariannu gan
gyllideb cynnal a chadw Priffyrdd y Cyngor. Maer rhaglenni wedi eu datblygu yn
dilyn arolygiad i asesu cyflwr pob ffordd yn y Sir gan staff
y Gwasanaethau Strydwedd. Mae鈥檙 arolygiadau hyn wedi sicrhau bod y ffyrdd sydd
angen eu trwsio fwyaf yn cael y sylw y maent eu hangen.
Fel mewn blynyddoedd blaenorol, yn ystod cyfnod y gwaith, bydd yn ofynnol cael
gorchmynion a gwyriadau cau ffordd dros dro ar gyfer diogelwch y contractwyr
syn
gwneud y gwaith ac i ddefnyddwyr y ffordd. Bydd arwyddion yn cael eu gosod ym
mhob lleoliad, yn rhoi gwybod i bobl pan fydd y gwaith i fod i ddechrau a
byddai鈥檙 Cyngor yn gwerthfawrogi amynedd y cyhoedd sy鈥檔 teithio a thrigolion
lleol yn ystod cyfnod y gwaith.
Bydd manylion yr holl raglenni ar gael ar wefan y Cyngor yn yr wythnosau i
ddod. Mae disgwyl ir holl raglenni ddechrau ym mis Medi a bydd wedi鈥檌
chwblhau erbyn y Nadolig.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros
yr Amgylchedd:
鈥淓r gwaethaf penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio ag ymestyn y Fenter
Benthyca Darbodus, a ddarparwyd i wellar rhwydwaith priffyrdd, ar cyfyngiadau
ariannol cyfredol ar y Cyngor, rydym yn falch i allu gwneud y buddsoddiad hwn
yn ffyrdd Sir y Fflint, syn dangos pwysigrwydd
rhwydwaith priffyrdd wedi鈥檜 cynnal ir Cyngor hwn.