Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Archwilio diogelwch cofebion
Published: 17/07/2015
Mae Cyngor Sir y Fflint yn bwrw ymlaen 芒鈥檙 gwaith o archwilio diogelwch
cofebion, a鈥檙 cam nesaf fydd archwilio鈥檙 mynwentydd a ganlyn, a hynny yn ystod
mis Gorffennaf.
路 Penarl芒g Rhifau 1 a 2
路 Treuddyn
路 Maes Glas Rhif 2
路 Ffordd Llaneurgain, y Fflint
Caiff pob cofeb yn y mynwentydd hyn eu harchwilio drwy ddilyn yr un drefn.
Staff profiadol fydd yn cynnal yr archwiliadau a byddant wedi cwblhau
hyfforddiant archwilio diogelwch ac yn gymwys i ymgymryd 芒鈥檙 gwaith sensitif
hwn.
Os gwelir nad yw cofeb yn ddiogel ond nad yw鈥檔 peryglu neb ar hyn o bryd, bydd
y Cyngor yn ceisio cysylltu 芒 pherchennog cofrestredig y bedd cyn trefnu i
gynnal y garreg dros dro o鈥檙 cefn. Caiff hysbysiad ei osod ar y garreg hefyd yn
dweud wrth y teulu nad yw鈥檙 Awdurdod wedi medru cysylltu 芒 nhw, yn esbonio
beth sydd wedi digwydd ac yn nodi enw cyswllt.
Os gwelir bod cofeb yn rhy beryglus i鈥檞 gadael heb ei chynnal dros dro, caiff
ei gosod ar ei gwastad ar flociau pren, caiff hysbysiad ei osod arni a, bydd yr
Awdurdod yn ceisio cysylltu 芒鈥檙 teulu.
Mae鈥檔 bwysig bod y Cyngor yn cwblhau鈥檙 gwaith hwn er mwyn diogelu pawb sy鈥檔
ymweld 芒 mynwentydd neu鈥檔 gweithio ynddynt. Hoffem sicrhau teuluoedd fod y
Cyngor yn ymwybodol iawn o鈥檜 teimladau ac y caiff y gwaith ei gwblhau mewn modd
parchus iawn.
Os hoffech ragor o wybodaeth am raglen diogelu cerrig beddi, ffoniwch y
Gwasanaethau Profedigaeth ar 01352 703360 neu 703361 neu 703362.