Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyrsiau diogelwch ar y ffyrdd i bobl Sir y Fflint
Published: 15/07/2015
Mae Cyngor Sir y Fflint yn hyrwyddo tri chwrs diogelwch ar y ffyrdd am ddim i
bobl o bob oed yn y sir.
Maer Rhaglen Gyrwyr Hyn yn rhoi asesiadau gyrru ymarferol, cyngor a
gwybodaeth i yrwyr cymwys 65 oed a hyn. Ei nod yw cadw gyrwyr hyn ar y ffordd,
a鈥檜 cadw鈥檔 fwy diogel am gyfnod hirach gan sicrhau bod pawb arall sy鈥檔
defnyddio鈥檙 ffordd yn ddiogel hefyd.
Gall yr asesiad gyrru bara hyd at ddwy awr a Hyfforddwyr Gyrru Cymeradwy sydd
wedi鈥檜 hyfforddi鈥檔 arbennig sy鈥檔 ei gynnal.
Cynllun ar gyfer gyrwyr rhwng 17-25 oed syn byw yng Nghymru yw Pass Plus
Cymru. Mae鈥檔 gyfle i bobl ifanc sydd newydd basio鈥檜 prawf gyrru gael gwybodaeth
a phrofiad ychwanegol gwerthfawr mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd ar y
ffordd na fyddent, o bosibl, wedi gorfod ymdopi 芒 nhw tra oeddent yn dysgu
gyrru.
Bydd dwy ran i鈥檙 cwrs, sef fforwm drafod mewn ystafell ddosbarth a hyfforddiant
ymarferol ar ffyrdd gwahanol ac mewn tywydd gwahanol. Mae鈥檙 sesiwn yn yr
ystafell ddosbarth yn esbonio鈥檙 canllawiau ar ddefnyddio ffonau symudol, gyrru
dan ddylanwad cyffuriau ac alcohol, a鈥檙 hyn a all ddigwydd os na chedwir at y
canllawiau.
Cwrs i feicwyr modur a cherbydau dwy olwyn eraill yw鈥檙 trydydd cwrs, sef
Bikesafe, a鈥檌 nod yw lleihau鈥檙 nifer sy鈥檔 cael eu hanafu a鈥檜 lladd yn y grwp
risg uchel hwn. Cynigir y cwrs hefyd i bobl sy鈥檔 byw鈥檙 tu allan i鈥檙 ardal leol
sy鈥檔 teithio鈥檔 aml ar ffyrdd Cymru.
Mae pedwar o weithdai BikeSafe, pedwar o gyrsiau First Bike on the Scene a
phedair o sesiynau
ScooterSafe wedi鈥檜 cynllunio.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd:
Rwy鈥檔 annog pobl i fanteisio ar y cyrsiau hyn a fydd yn helpu i wella diogelwch
ar ffyrdd y sir. Gobeithio y byddant yn annog defnyddwyr ffyrdd o bob oed i
newid eu hymddygiad ac i ddod yn fwy ymwybodol o ddiogelwch ar y ffyrdd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan d卯m Diogelwch Ffyrdd y Cyngor ar
01352 704529
neu ar y gwefannau a ganlyn:
Asesiadau i yrwyr hyn - www.siryfflint.gov.uk
Pass Plus Cymru - www.dragondriver.com
Bikesafe - www.bikesafe.co.uk