Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Llyfr i nodi Llwybr Cerfluniau newydd
Published: 14/07/2015
Mae llyfr coffaol wedi cael ei gynhyrchu i nodi llwybr cerfluniau newydd ar y
llwybr beicio rhwng River Lane, Saltney, a phont droed Saltney Ferry.
Mae pedwar cerflun a osodwyd yn ddiweddar yn rhan o brosiect aml-asiantaeth ar
them芒u treftadaeth, celf, mynediad a bywyd gwyllt ar y llwybr beicio.
Mae鈥檙 cerfluniau unigryw 7 troedfedd gan yr artist nodedig Mike Johnson wedi
cael eu creu i adlewyrchu golau鈥檙 arfordir a bywyd planhigion lleol, a ganfuwyd
gan blant ysgolion lleol ar ymweliad 芒鈥檙 safle y llynedd.
Mae鈥檙 llyfr newydd yn cynnwys trosolwg o鈥檙 prosiect a rhywfaint o waith celf a
gynhyrchwyd gan y disgyblion. Mae hefyd yn cynnwys ffotograffau o鈥檙 plant yn
casglu planhigion i fynd yn 么l gyda nhw i鈥檙 ystafell ddosbarth i鈥檞 hastudio ar
gyfer y gwaith celf.
Mae鈥檙 cynllun adfywio sylweddol ar lan yr afon wedi cael ei wneud mewn
partneriaeth 芒 Chyngor Tref Saltney, Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint,
Cyfoeth Naturiol Cymru a Chadwyn Clwyd, sef Asiantaeth Datblygu Gwledig i Sir y
Fflint a Sir Didnbych. Mae鈥檙 tir yn perthyn i鈥檙 Cyngor Sir a Chyfoeth Naturiol
Cymru. Sichraodd Cadwyn Clwyd fwyafrif y cyllid ar gyfer y prosiect gan
Gynllun Datblygu Gwledig Cymru, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop dros
Ddatblygiad Gwledig a Llywodraeth Cymru.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod o鈥檙 Cabinet
dros yr Amgylchedd: 鈥淩wy鈥檔 eithriadol o falch o鈥檙 hyn sydd wedi cael ei
gyflawni drwy鈥檙 dull gweithio aml-bartneriaeth hwn. Mae鈥檔 enghraifft wych o
waith adfywio arfordirol yn Sir y Fflint ac mae鈥檔 cynrychioli buddsoddiad
ardderchog yn ein cymuned. Gobeithiaf y bydd y llyfr newydd hwn o ddiddordeb
yn lleol a thu hwnt.
Nodyn i鈥檙 Golygyddion
Bydd cyfle i dynnu llun ger siop Go Outdoors, River Lane, Saltney am 2pm ar 14
Gorffennaf gyda disgyblion o un o鈥檙 ysgolion a gymerodd ran, Ysgol Gynradd
Saltney Ferry.