Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwneud Garden City yn wyrddach
Published: 02/07/2015
Ymgynghorir 芒 phreswylwyr ynglyn 芒 chynlluniau i blannu coed a gwneud
gwelliannau amgylcheddol eraill yn ardal Garden City.
Gall pobl fynychu digwyddiad yn Nghanolfan Gymunedol St Andrews, Garden City
ddydd Llun 13 Gorffennaf rhwng 1pm a 7pm i glywed mwy o fanylion am y cynigion.
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi sicrhau cyllid gwerth 拢200,000 gan Lywodraeth
Cymru drwy鈥檙 Fframwaith Adfywio Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid i gwblhau鈥檙
gwaith.
Bwriedir plannu coed a llwyni mewn lleoliadau cyhoeddus priodol, yn ogystal 芒
newid ffensys gwael a gosod meinciau a byrddau picnic.
Bydd plannu coed a gwyrchoedd hefyd yn cael ei gynnig i gartrefi preifat a
thai鈥檙 cyngor os gall perchnogion tai a thenantiaid ymrwymo i鈥檞 cynnal a鈥檜 cadw
yn y dyfodol.
Wright Landscapes yw鈥檙 cwmni sydd wedi ennill y contract i ddarparu cynllun a
gyda chynrychiolwyr o Gyngor Sir y Fflint byddant yn y digwyddiad ymgynghori i
ddarparu gwybodaeth ar y mathau o goed, llwyni a phlanhigion a fydd ar gael.
Meddai鈥檙 Cynghorydd Helen Brown, Aelod o鈥檙 Cabinet dros Dai: 鈥淢ae hwn yn gyfle
arbennig i wella鈥檙 amgylchedd yn Garden City a gobeithiaf y bydd pobl yn
mynychu鈥檙 digwyddiad ac yn manteisio ar yr hyn a fydd ar gael iddynt fel rhan
o鈥檙 cynllun hwn
Meddai鈥檙 Cynghorydd Derek Butler, Aelod o鈥檙 Cabinet dros Ddatblygiad
Economaidd: 鈥淩wy鈥檔 falch iawn o allu sicrhau鈥檙 cyllid ar gyfer y cynllun hwn a
fydd o les i鈥檙 gymuned leol a鈥檙 amgylchedd lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, syn cynrychioli ward Sealand,
Mae hwn yn brosiect cyffrous i ardal Garden City ac rydym yn edrych ymlaen at
weithio gydar bobl leol ar ysgol leol i greu lle mwy gwyrdd.