Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Croesawu offer chwarae newydd ym Magillt
Published: 02/07/2015
Mae strwythur chwarae newydd i blant bach, a throgylch, wediu gosod ym Mron y
Wern, Bagillt yn ddiweddar,
diolch i grant chwarae gan Lywodraeth Cymru o 拢15,000.
Roedd grant Sicrhau Digon o Gyfleoedd Chwarae i Blant gan Lywodraeth Cymru wedi
nodi鈥檙 lleoliad hwn ar gyfer
gwella, a chwblhawyd y gwaith yn ddiweddar gan Gyngor Sir y Fflint.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod y Cabinet dros Strategaeth Gwastraff,
Gwarchod y Cyhoedd a
Hamdden sydd hefyd yn aelod y ward leol:
鈥淩wyn falch iawn ein bod wedi gallu sicrhau鈥檙 arian hwn gan Lywodraeth Cymru
ar gyfer plant Bagillt.
Mae hwn yn hwb ariannol in helpu i wella cyfleusterau yn y maes chwarae hwn ar
gyfer y bobl ifanc syn
eu defnyddio.
Mae鈥檙 offer newydd wedi cael ymateb da gan y plant, yn enwedig y rhai yn yr
ysgol leol, Ysgol Merllyn.
Dywedodd y Dirprwy Bennaeth, Mr John Green:
鈥淢ae鈥檙 plant yn hapus iawn gydar offer newydd, ac maent yn cael eu denu鈥檔
arbennig at y trogylch.
Maen wych cael y cyfleuster hwn mor agos at yr ysgol. Mae chwarae yn bwysig i
blant ac maen wych eu gweld
yn gwneud y mwyaf or cyfleoedd chwarae a hamdden hyn yn eu hamser rhydd.
Ychwanegodd y Cynghorydd Jones:
鈥淢aen bwysig nodi na wnaethpwyd y gwaith adnewyddu ym Mron y Wern o dan
gynllun arian cyfatebol y Cyngor.
Fodd bynnag, croesewir y ffaith bod y Cyngor unwaith eto yn rhedeg ei raglen
arian cyfatebol i
uwchraddio meysydd chwarae i blant y flwyddyn ariannol hon, gan weithio mewn
partneriaeth 芒 chynghorau tref a
chymuned.
Yn 2015/16, bydd cyfanswm o 拢105,000 ar gael ar yr un sail 芒 blynyddoedd
blaenorol, gyda phob tref a
chyngor cymuned yn cael eu gwahodd i fynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn y
cynllun, a chyllid y Cyngor Sir
yn cael ei gyfeirio at ardaloedd mewn angen. Bydd uchafswm o 拢10,000 o
gyfraniad arian cyfatebol ar gael i bob
cynllun.
Gan ddechrau ym mis Ebrill 2016, bydd y cynllun Grant Cymunedol Ardal Chwarae
yn disodlir cynllun ariannu
presennol cyfatebol, gyda鈥檌 brif ffocws ar gefnogi鈥檙 ardaloedd chwarae hynny
sy鈥檔 cael eu trosglwyddo i gymunedau.
Llun
Yn y llun mae鈥檙 Cyng Kevin Jones gyda phlant ysgol o Ysgol Merllyn: