Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyfraddau Casglu Treth y Cyngor
Published: 17/06/2015
Mae ffigurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod perfformiad Cyngor
Sir y Fflint, gyda chefnogaeth ei drigolion, yn ardderchog wrth gasglu Treth y
Cyngor.
Ym mlwyddyn ariannol 2014-15, casglodd y Cyngor 97.8% o Dreth y Cyngor yn y
flwyddyn yr aeth yn ddyledus, sydd 0.6% yn uwch nar cyfartaledd cenedlaethol o
97.2%. Mae hyn yn golygu mai perfformiad Sir y Fflint oedd y gorau o blith
Cynghorau Gogledd Cymru ac yn y tri uchaf ar draws Cymru. Cyflawnwyd y ffigwr
casglu uchel hwn ar yr un pryd ag y cynhaliwyd adolygiad o鈥檙 gostyngiad person
sengl a arweiniodd at ddileu llawer o ostyngiadau, a chynyddur symiau iw
casglu.
Yn ogystal 芒 chynyddu casgliadau, mae鈥檙 Cyngor yn parhau i foderneiddio a
thrawsnewid y ffordd y maen gweithredu drwy ei gwneud yn haws i drigolion dalu
eu biliau a chael mynediad i wasanaethau.. Gall cartrefi Sir y Fflint dalu
bellach drwy ddebyd uniongyrchol wythnosol - un or ychydig gynghorau yng
Nghymru sy鈥檔 cynnig cynllun talu hyblyg or fath.
Wrth s么n am y cyhoeddiad, dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y
Cyngor:
鈥淢ae Sir y Fflint yn perfformion dda ac rwyf wrth fy modd ein bod wedi
cyflawni safon uchel o gasglu treth y cyngor.
鈥淩ydym ni hefyd yn cydnabod y gall rhai teuluoedd ei chael hi鈥檔 anodd talu, ac
rydym nin annog unrhyw un syn cael trafferth talu i gysylltu鈥檔 syth bin 芒
Gwasanaeth Treth y Cyngor ar 01352 704848 fel y gallwn ni ddarparu cymorth ac
arweiniad ymarferol ar y ffordd orau o dalu.