Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Fframwaith adroddiad blynyddol gan y Cyngor
Published: 12/06/2015
Bydd Cabinet y Cyngor yn trafod perfformiad blynyddol y Gwasanaethau
Cymdeithasol yn ei gyfarfod ddydd Mawrth 16 Mehefin .
Bydd Prif Swyddog y Gwasanaethau Cymdeithasol, Neil Ayling, yn cynhyrchu
adroddiad blynyddol fel rhan o fframwaith perfformiad ar gyfer Gwasanaethau
Cymdeithasol. Mae鈥檙 adroddiad, sydd hefyd yn ystyried pa mor effeithiol fu鈥檙
Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod 2014/2015, yn nodi blaenoriaethau鈥檙 Cyngor.
Cafodd adroddiadau blaenorol eu cydnabod gan y rheoleiddwyr yn asesiadau teg a
chywir.
Datblygwyd yr adroddiad i adlewyrchu prif them芒ur Ddeddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant a ddaw i rym fis Ebrill 2016.
Yn ystod blwyddyn o newidiadau sylweddol yn y gwasanaeth, cafwyd perfformiad da
ym mhob agwedd ar y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion ac mewn nifer o
agweddau ar y Gwasanaethau i Blant. Mae hyn i gyd yng nghyd-destun galw
cynyddol ar y gwasanaethau, anghenion mwy cymhleth a sefyllfa gyllidebol
anodd.
Dyma鈥檙 prif bwyntiau
- Cynorthwyo rhagor i fyw gartref drwy raglenni ail-alluogi - ymateb i gynnydd
o 28% yn y nifer a gaiff eu cyfeirio at y gwasanaeth hwn
- Sefydlu gwasanaeth newydd yn cynnig cymorth tymor byr mewn lleoliad Gofal
Cartref yn lle anfon pobl i鈥檙 ysbyty, neu i ganiat谩u iddynt gael eu rhyddhau
o鈥檙 ysbyty. Llwyddwyd i helpu 90 o bobl drwy鈥檙 gwasanaeth hwn.
- Perfformiad da o ran cyrraedd dangosyddion cenedlaethol yn y prosesau
amddiffyn plant
Mae鈥檙 blaenoriaethau gwella allweddol ar gyfer y flwyddyn nesaf yn cynnwys
cynllun gweithredu i gryfhau gwasanaethau dementia, gweithredu system Un Pwynt
Cyswllt, a datblygu Gofal
Ychwanegol. Dylid hefyd roi blaenoriaeth i ymchwilio i fodelau cyflenwi
gwahanol, i sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fedru cynnig gwasanaethau pwysig i
gymunedau ac unigolion.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau
Cymdeithasol:
鈥淢ae hwn yn adroddiad rhagorol ac yn asesiad teg o鈥檔 perfformiad fel gwasanaeth
y llynedd. Mae hefyd yn wych mai Double Click, ein menter newydd i bobl a
chanddynt broblemau iechyd meddwl, fu鈥檔 gyfrifol am ddylunio鈥檙 adroddiad.
Asesiad cyffredinol y Cyngor yw bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i
fwrw ymlaen i newid y gwasanaeth er gwell a鈥檜 bod mewn sefyllfa dda i ymateb
i鈥檙 sefyllfa ariannol anodd rydym yn ei hwynebu, ond mae hefyd yn realistig
ynghylch maint yr her. Nid ydym yn llaesu dwylo, ond rwy鈥檔 falch o鈥檙 gwaith da
a wnaed gan bawb.