Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Disgybl o Ysgol Argoed yn cael cydnabyddiaeth yn Neuadd y Sir
Published: 23/04/2015
Mae disgybl blwyddyn deg o Ysgol Uwchradd Argoed,聽 Mynydd Isa wedi cael
cydnabyddiaeth gan Gyngor Sir y Fflint am gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth
Gwobrau Mandarin Cyngor Prydeinig HSBC.
15 oed yw Charlie Greenall ac mae鈥檔 astudio Mandarin ers deunaw mis. Ysgol
Uwchradd Argoed oedd yr unig ysgol yng Nghymru i gymryd rhan yng
Nghystadleuaeth Cyngor Prydeinig HSBC, a hynny yn y cystadlaethau ar gyfer
timau ac unigolion.
Daeth Charlie i鈥檙 brig yn ei rownd hi yn y gystadleuaeth i unigolion gan
gyrraedd y rownd derfynol a gynhaliwyd yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain
fis聽 Chwefror.
Daeth Charlie a鈥檌聽 phennaeth, Dawn Spence, i Neuadd y Sir yn ddiweddar lle
cafodd llwyddiant Charlie ei gydnabod mewn cyfarfod llawn o鈥檙 Cyngor Sir.
Meddai Charlie:
鈥淒echreuais ddysgu Mandarin yn y clwb iaith ar 么l ysgol ym Mlwyddyn 7 ac yna,
dewisais astudio鈥檙 iaith fel un o鈥檓 pynciau TGAU ac , yn wir, dyma鈥檙 pwnc
cyntaf y dewisais ei astudio ym mlwyddyn 10. Rwyf wedi bod 芒 diddordeb yn yr
iaith ar diwylliant erioed. Pan glywais gyntaf am y gystadleuaeth, neidiais ar
y cyfle i gystadlu fel unigolyn er mwyn dangos y sgiliau roeddwn i wedi鈥檜
dysgu. Ychydig fisoedd ar 么l cystadlu yn y rowndiau a gynhaliwyd yn Llundain,
cefais gadarnhad fy mod i wedi cyrraedd y rownd derfynol yn fy nghategori i.
Cynhaliwyd y rownd derfynol yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain ac roeddwn yn
cystadlu
yn erbyn rhai siaradwyr cryf iawn o bob rhan o鈥檙 DU. Er nad enillais y rownd
derfynol, dysgais gryn dipyn o鈥檙 profiad a gwnaeth fy Mandarin wella鈥檔 gyflym
wrth i mi baratoi ar gyfer y gystadleuaeth.鈥
Dyweodd Pennaeth Ysgol Uwchradd Argoed, 聽Dawn Spence:
鈥淩ydym yn hynod falch o bawb a fu鈥檔 cystadlu, ac yn enwedig Charlie, a oedd nid
yn unig yn cynrychioli鈥檙 ysgol ond Sir y Fflint a Chymru hefyd. Ysgol Uwchradd
Argoed oedd un o鈥檙 ystafelloedd dosbarth Confucius gyntaf yng Nghymru ac rydym
yn dysgu Mandarin ac yn astudio diwylliant Tsieina ers blynyddoedd bellach.
Rydym wedi ehangur ddarpariaeth yn ddiweddar i gynnwys cyrsiau iaith busnes.
Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch 芒r ysgol.鈥
Mae鈥檙 Cynghorydd Derek Butler hefyd yn dysgu Mandarin, a chroesawodd Charlie
i鈥檙 Cyngor Sir,聽 gan ychwanegu:
鈥淢ae bob amser yn braf clywed am lwyddiant disgyblion Sir y Fflint, a hoffwn
longyfarch Charlie, ar ran y Cyngor Sir, ar ei llwyddiant. Rwy鈥檔 sicr y bydd
dysgu Mandarin a dysgu am ddiwylliant Tsieina yn parhau i fod yn brofiad
gwerthfawr sy鈥檔 ei chyfoethogi 聽鈥
Delwedd
Y Cynghorydd Chris Bithell, y Cynghorydd Glenys Diskin, Cadeirydd Cyngor Sir y
Fflint, Ian Budd, Charlie Greenall, a鈥檙 Cynghorydd Derek Butler, Dawn Spence
(Ysgol Uwchradd Argoed) yn Neuadd y Sir.