Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cefnogwr Lluoedd Arfog Newydd Sir y Fflint
Published: 22/04/2015
Mae gan Gyngor Sir y Fflint Gefnogwr Lluoedd Arfog newydd.
Mae鈥檙 Cynghorydd Andy Dunbobbin wedi derbyn y r么l bwysig gan Arweinydd y
Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton. Bydd y Cynghorydd Dunbobbin yn goruchwylio
Cyfamod Cymunedol y Cyngor.
Mae鈥檙 Cyfamod Cymunedol, a gytunwyd arno ym mis Ionawr 2013 a鈥檌 lofnodi ym mis
Gorffennaf 2013, yn ddatganiad gwirfoddol o gydgefnogaeth rhwng cymuned sifil a
chymuned lluoedd arfog Sir y Fflint.
Maer Cyfamod yn ymagwedd aml-asiantaeth rhwng y Cyngor, y Lluoedd Arfog yn Sir
y Fflint a chynrychiolwyr or sectorau elusennol a gwirfoddol, y sector
cyhoeddus, y gymuned fusnes, a sefydliadau addysg bellach ac uwch. Ei nod yw
sicrhau na fydd unrhyw aelod syn gwasanaethu neu gyn-filwr or Lluoedd Arfog,
boed yn y fyddin reolaidd neu鈥檙 warchodfa, nau teuluoedd, yn cael eu rhoi dan
anfantais wrth gael mynediad i wasanaethau cyhoeddus; ac y dylent gael eu trin
yn deg ac yn briodol i gydnabod eu hymrwymiad. Mae hefyd yn ategu鈥檙 cyfamod
Lluoedd Arfog cenedlaethol sy鈥檔 amlinellu鈥檙 rhwymedigaeth foesol rhwng y
genedl, y llywodraeth a鈥檙 Lluoedd Arfog.
Mae Cyfamod Cymunedol y Sir yn cynnwys llyfrgell ar-lein o sefydliadau a
thudalen we dynodedig er mwyn darparu cymorth a chefnogaeth i aelodau or
gymuned Lluoedd Arfog au teuluoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Dunbobbin:
鈥淢ae鈥檔 anrhydedd gen i ymgymryd 芒 r么l Cefnogwr Lluoedd Arfog Sir y Fflint. Rydw
i eisoes yn ymgysylltu 芒 chymunedau, busnesau a sefydliadau elusennol i gefnogi
ein cymuned Lluoedd Arfog, gydar nod o nodi a chael mynediad i gyfleoedd
ariannu a fydd o fudd iddyn nhw.鈥
Mae digwyddiad Cyfamod Corfforaethol Lluoedd Arfog i fudd-ddeiliaid wedi ei
drefnu ar gyfer 10 Gorffennaf. Bydd hwn yn gyfle i hyrwyddor Cyfamod
Corfforaethol, sef addewid gwirfoddol ysgrifenedig a gyhoeddwyd gan fusnesau a
sefydliadau elusennol syn dymuno dangos eu cefnogaeth.