Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Etholiad Cyffredinol 7 Mai: gofalwch eich bod yn gallu pleidleisio
Published: 19/03/2015
Mae ymgyrch hysbysebu ar y gweill i annog pleidleiswyr i gofrestru cyn yr
Etholiad Cyffredinol. Mae Cyngor Sir y Fflint yn annog trigolion lleol i
edrych ar wefan www.gov.uk/register-to-vote
Ddydd Iau, 7 Mai bydd pleidleiswyr yn mynd i鈥檙 gorsafoedd i ethol Aelodau
Seneddol ar gyfer etholaethau seneddol Delyn ac Alyn a Glannau Dyfrdwy yn Sir y
Fflint.
Ar ddechrau鈥檙 wythnos, lansiodd y Comisiwn Etholiadol ei ymgyrch gofrestru
genedlaethol i atgoffa pobl i gofrestru i bleidleisio erbyn 20 Ebrill. Gweler
yr hysbyseb teledu yma.
Meddai Colin Everett, Swyddog Canlyniadau,
鈥淒ylai unrhyw un sydd heb gofrestru i bleidleisio wneud hynny cyn gynted ag
sy鈥檔 bosibl fel nad ydynt yn colli鈥檙 cyfle i bleidleisio yn yr Etholiad
Cyffredinol sydd ar y gorwel.
Ni allwch bleidleisio os nad ydych wedi cofrestru erbyn 20 Ebrill. Rydym yn
annog y rheiny sydd heb gofrestru i wneud hynny ar-lein ar
www.gov.uk/register-to-vote. Bydd ond yn cymryd ychydig funudau ac os ydych yn
ansicr p鈥檜n a ydych wedi cofrestru, gallwch gysylltu 芒鈥檔 Swyddfa Etholiadol ar
01352 702412
Gwybodaeth gefndirol
Mewn gwaith ymchwil diweddar a gynhaliwyd gan YouGov, gwelodd y Comisiwn
Etholiadol:
路 fod 21% o bobl sy鈥檔 rhentu鈥檔 breifat yn meddwl eu bod wedi cofrestru i
bleidleisio fel mater o drefn am eu bod yn talu鈥檙 dreth gyngor
路 bod 40% o鈥檙 rheiny a holwyd yn meddwl nad oes modd cofrestru i bleidleisio
ar-lein yn Lloegr, yr Alban a Chymru.
路 nad yw 69% o bobl yn gwybod pryd mae鈥檙 dyddiad cau ar gyfer cofrestru i
bleidleisio. Mae 13% yn meddwl ei bod yn rhy hwyr iddynt gofrestru. Pan
roddwyd dewis o bump opsiwn iddynt, dim ond 32% a lwyddodd i ateb mai 20 Ebrill
yw鈥檙 dyddiad cau.