Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathlu gwyddoniaeth a mathemateg yn Ysgol Caer Nant
Published: 03/03/2015
Cynhaliwyd digwyddiad cyflwyno gwobrau yn Ysgol Caer Nant, Cei Cona鈥檔
ddiweddar, i ddathlu llwyddiant cyfres o weithdai鈥檔 ymwneud 芒 gwyddoniaeth,
technoleg, peirianneg a mathemateg ar gyfer plant o flwyddyn pump a chwech.
Diben y gweithdai oedd annog a chodi dyheadau鈥檙 disgyblion mewn pynciau sy鈥檔
ymwneud 芒 gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg er mwyn iddynt
edrych ar y pynciau hynny mewn goleuni cadarnhaol yn yr ysgol uwchradd a thu
hwnt i hynny, gan weithio tuag at yrfa bosibl. Darparwyd y gweithdai
gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg mewn partneriaeth 芒 Chlwstwr
Dwyreiniol Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint a SARN Associates.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor, a fynychodd ar y noson:
鈥淩oedd yn bleser cael mynychur noson a chyflwyno gwobrau ir plant, a
ddangosodd lawer o frwdfrydedd yn ystod y gweithdai, yn enwedig wrth gymryd
rhan yn y gweithgareddau. Fe fuon nhw鈥檔 cynhyrchu gwres a golau鈥檔 defnyddio
bwlb bach bach a batri, yn gwneud i bethau symud drwy gysylltu olwynion
danheddog ac echelydd, gan ddefnyddio mathemateg i gyfrifo鈥檙 gymhareb a鈥檙
cyflymder. Bu鈥檙 disgyblion hefyd yn dylunio posteri鈥檔 ymwneud 芒 pheirianneg fel
rhan or prosiect.
Rhoddodd y digwyddiad cyflwyno yn yr ysgol gyfle i鈥檙 plant ddangos i鈥檞 rhieni y
gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg,
peirianneg a mathemateg.
Llun
Yn y llun o鈥檙 noson gyflwyno mae Anita, Ella, Lewis, Kristof a Jamie-Lee,
gyda鈥檙 Tiwtor Dave Evans, Christine Gilholm (Cyngor Sir y Fflint) a鈥檙
Cynghorydd Aaron Shotton.