Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Digwyddiad swyddi, sgiliau a hyfforddiant Sir y Fflint
Published: 12/02/2015
Ydi鈥檙 farchnad swyddi鈥檔 achosi dryswch i chi neu oes arnoch chi angen cyngor
ynglyn 芒 sgiliau a hyfforddiant?
Dewch draw i Ddigwyddiad Swyddi, Sgiliau a Hyfforddiant Sir y Fflint yng Nghei
Connah i dderbyn gwybodaeth i鈥檆h helpu chi gael gwaith.
Mae Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, Canolfan Byd Gwaith a Gyrfa Cymru yn dwyn
cyflogwyr lleol, darparwyr gwasanaethau a phobl sy鈥檔 chwilio am waith ynghyd yn
y Neuadd Ddinesig yng Nghei Connah ddydd Iau 16 Ebrill 2015 rhwng 10am a 3pm.
Bydd busnesau sydd 芒 swyddi lleol a lleoliadau profiad gwaith yn bresennol ar y
diwrnod i drafod eu cyfleoedd. Bydd cyngor ymarferol ar sut i ddod o hyd i
waith gan gynnwys gweithdai ar dechnegau mewn cyfweliad, ysgrifennu CV a llenwi
ffurflenni cais. Bydd partneriaid addysg bellach ac uwch hefyd wrth law i
drafod hyfforddiant a chyrsiau sydd ar gael yn eich cymuned.
Bydd cynrychiolwyr Clwb Menter Cymunedau yn Gyntaf hefyd yn bresennol i
hyrwyddo cyfleoedd entrepreneuraidd yn Sir y Fflint ar gefnogaeth sydd ar gael
i bobl sydd eisiau dechrau eu busnes eu hunain.
Bydd Gyrfa Cymru yn cynnig cymorth gyrfaoedd wedi ei deilwra ar gyfer pobl
ifanc 16 oed a hyn a bydd mentoriaid y rhaglen LIFT yn darparu cymorth un i un
ar gyfer pobl sy鈥檔 byw yn ardal Cymunedau yn Gyntaf sydd wedi bod yn ddi-waith
ers chwe mis neu fwy ac sy鈥檔 byw mewn aelwydi di-waith.
Bydd ymgynghorydd rhieni Cymunedau yn Gyntaf hefyd yno i gynnig cefnogaeth a
chyngor i rieni.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch 芒 Nia neu Kate yn Cymunedau yn Gyntaf ar
01352 703024 / 01244 846090.
GALW POB CYFLOGWYR LLEOL
A oes gennych chi swydd wag iw llenwi? Hoffech chi i鈥檙 Ganolfan Byd Gwaith
hysbysebu鈥檙 swyddi gwag yma ar eich rhan yn y digwyddiad? Os felly, cysylltwch
芒 Paul Murphy yn y Ganolfan Byd Gwaith ar 01244 583728.