Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Cynghorydd Stella Jones
Published: 28/01/2015
Mae teyrngedau twymgalon wedi鈥檜 talu i鈥檙 Cynghorydd Stella Jones sydd wedi marw.
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton:
Roeddwn yn eithriadol o drist o glywed am farwolaeth y Cynghorydd Stella
Jones. Roedd Stella鈥檔 wraig hyfryd ac yn was cyhoeddus ymroddedig. Roedd
parch mawr tuag ati hi yn y Cyngor Sir ac yng nghymuned Caergwrle sef y gymuned
y bu鈥檔 gweithio mor ddiflino drosti. Mae鈥檙 Sir wedi colli Cynghorydd a wnaeth
wahaniaeth anferth i gymaint o fywydau, a byddwn i gyd yn gweld colled fawr ar
ei h么l.
Meddai Cadeirydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Glenys Diskin:
鈥淢ae鈥檔 ddrwg iawn gennyf glywed y newyddion a mae fy meddyliau gyda theulu
Stella ac rwy鈥檔 cydymdeimlo 芒 nhw鈥檔 fawr. Roedd gennyf feddwl mawr o Stella ac
roedd yn gynghorydd diwyd dros ben. Fel swyddog ac, ar 么l hynny, fel
llywodraethwr ysgol a Chynghorydd Sir, roedd yn ymroddedig i wneud gwahaniaeth
go iawn i faterion addysgol. Byddai鈥檔 mynd allan o鈥檌 ffordd i helpu unrhyw un
a bydd pawb yn gweld ei heisiau.鈥
Etholwyd y Cynghorydd Jones am y tro cyntaf i Gyngor Sir y Fflint ym mis Mai
2004. Roedd yn Is-gadeirydd y Fforwm Cynhwysiant Cymdeithasol rhwng Mai 2004 a
Mai 2008. Bu鈥檔 aelod o Gyngor Cymuned yr H么b ers 2000 ac roedd yn
llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Castell Alun yn yr H么b, ac Ysgol Gynradd
Abermorddu. Cyn dod yn gynghorydd sir, gweithiodd ym myd addysg yn y Sir.