97ɫ

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dweud eich dweud - Ymgynghori ar y Gyllideb 2025 / 2026

Published: 21/10/2024

Am ymhell dros ddegawd mae bob Cyngor yn y DU wedi wynebu heriau ariannol sylweddol oherwydd tanwario blwyddyn ar ôl blwyddyn gan lywodraethau cenedlaethol.

Dros y cyfnod hwn mae Sir y Fflint wedi torri ei wariant o fwy na £125 miliwn.

Mae 68% o’r cyllid mae Sir y Fflint yn ei gael yn dod gan Lywodraeth Cymru ac y pen o’r boblogaeth rydym yn 20 allan o 22 Cyngor yng Nghymru ar gyfer yr arian a gawn i ddarparu gwasanaethau.

Bob blwyddyn daw’n fwy anodd ac rydym yn rhannu ein pryderon y gall y bwlch rhwng yr arian a gawn a’r hyn sydd angen i ni ei wario fynd yn rhy fawr, ond gyda llawer o waith caled a rhai penderfyniadau anodd rydym yn llwyddo i’w wneud o drwch blewyn.

Dywedodd Cynghorydd Dave Hughes, Arweinydd y Cyngor:

“Dros y cyfnod hwn rydym wedi defnyddio’r holl ddewisiadau hawdd i dorri gwariant ac rydym hefyd wedi defnyddio’r dewisiadau cymedrol i anodd. Heb unrhyw arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru rydym mewn sefyllfa ddifrifol, gritigol ble mai’r unig beth sy’n weddill i ni yw dewisiadau anodd a fydd yn effeithio’n sylweddol ar ein trigolion a’r gweithlu.

“Er ein bod yn gweithio’n galed i ganfod atebion, nid ydym yn gor-ddweud pan ddywedwn y gall 2025/26 fod y flwyddyn pan na allwn gau’r bwlch.”

Os hoffai preswylwyr gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn mae holiadur byr ar-lein ar gael tan 24 Tachwedd 2024 yn

Gall preswylwyr nad ydynt yn gallu llenwi’r arolwg ar-lein fynd i unrhyw un o Ganolfannau Sir y Fflint yn Cysylltu lle bydd modd cael cefnogaeth. Mae’r oriau agor ar .