97ɫ

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Lefelau presenoldeb yn ysgolion Sir y Fflint yn cynyddu

Published: 08/10/2024

Mae lefelau presenoldeb yn ysgolion Sir y Fflint yn uwch na chyfartaledd Cymru erbyn hyn yn dilyn camau gweithredu gan Gyngor Sir y Fflint.

Yn 2023, ymrwymodd adran addysg y Cyngor i gymryd agwedd fwy cadarn at absenoldebau heb awdurdod a gofnodwyd gan ysgolion cynradd ac uwchradd fel rhan o’i strategaeth i wella cyfraddau presenoldeb i ddysgwyr Sir y Fflint.

Mae’r agwedd hon, ar y cyd â chamau gan yr ysgolion, wedi golygu bod lefel presenoldeb dysgwyr Sir y Fflint yn y 4 uchaf yn genedlaethol, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae’r Gwasanaeth Lles Addysg wedi targedu adnoddau i gefnogi dysgwyr ar draws y sir ac mae hynny wedi arwain at bresenoldeb cyffredinol o bron i 1% yn uwch na chyfartaledd Cymru.

Blaenoriaethodd yr awdurdod lleol y gwaith o fonitro presenoldeb disgyblion, yn enwedig y rhai ym mlynyddoedd 6 a 7 oedd yn is na’r targed presenoldeb o 90%. Mae teuluoedd wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch ac wedi cael eu cefnogi i wella presenoldeb disgyblion.

Pan oedd yr absenoldeb cyson yn parhau er gwaetha cefnogaeth ac ymyrraeth, cafodd y rhieni Rybuddion Cosb Benodedig neu wynebu achosion llys pan oedd pob ffordd arall wedi methu â gwella presenoldeb. Mae Ynadon lleol wedi atgyfnerthu difrifoldeb absenoldeb heb awdurdod yr haf hwn a chafodd un teulu ddirwy/cosb o £2,048 ym mis Awst 2024.

Dywedodd Claire Homard, y Prif Swyddog Addysg: “Mae’n braf iawn gweld bod y gwaith rydym yn ei wneud fel Cyngor i sicrhau lefelau presenoldeb uchel yn yr ysgol yn cael effaith gadarnhaol, a bellach mae ein perfformiad ymhlith y gorau yng Nghymru.

“Mae presenoldeb cyson yn yr ysgol yn hanfodol i sicrhau bod ein dysgwyr yn cyflawni eu potensial ac yn cael y sgiliau a’r cymwysterau i symud ymlaen yn llwyddiannus i addysg bellach ac uwch a’r byd gwaith. Byddwn yn parhau i gymryd agwedd gadarn pan na fydd teuluoedd yn cefnogi eu plant i fynd i’r ysgol yn rheolaidd.”