97ɫ

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Dylunio i Atal Troseddu yn Nociau Cei Connah

Published: 03/10/2024

Carpark before.jpgMae Cyngor Sir y Fflint yn falch o gyhoeddi bod ei Dîm Adfywio wedi sicrhau £290,000 o Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) Llywodraeth y DU i wella ardal Doc Cei Connah. Ym mis Mai eleni, cymeradwywyd rhaglen o welliannau gan y cyllidwyr i helpu i ‘ddylunio i atal trosedd’ yn ardal Ffordd y Doc, rhan o raglen fuddsoddi ehangach ar draws trefi yn Sir y Fflint. Mae gwaith bellach ar y gweill ar y safle i wella goleuadau yn yr ardal, gosod camerâu teledu cylch cyfyng a gwneud gwelliannau amgylcheddol.

Ers amser maith, mae ardal Ffordd y Doc yng Nghei Connah wedi bod yn bryder i’r Cyngor a’r Heddlu. Ardal sydd i’w gweld yn cael ei hesgeuluso, sy’n llawn tipio anghyfreithlon a cherbydau/cychod wedi’u gadael, mae Ffordd y Doc yn cyfrif am 75% o’r holl droseddau a adroddir yng Nghei Connah ac mae’n faes targed â blaenoriaeth ar gyfer amrywiaeth o sefydliadau a phartneriaid y Cyngor. Nid oedd yr arian oedd ei angen i wneud y gwaith gwella angenrheidiol ar gael ac roedd ardal Ffordd y Doc yn parhau i fod mewn angen dirfawr am fuddsoddiad a gwelliant.

Amlygodd y Cynghorydd David Healey, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd a’r Economi, bryder lleol am yr ardal: “Roedd angen dybryd i wella ardal Ffordd y Doc yng Nghei Connah ac mae buddsoddiad o gronfeydd SPF yn gam cyntaf hanfodol i wneud ardal y dociau yn fwy diogel a, gyda chymaint o botensial, ymhen amser gobeithio, a chyda buddsoddiad pellach, yn lle llawer mwy apelgar i drigolion ac ymwelwyr.”

Nod y buddsoddiad, sydd i’w gyflawni drwy’r prosiect newydd yn Nociau Cei Connah, yw y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar yr ardal drwy wella diogelwch Ffordd y Doc a helpu i leihau ofn trosedd a gwneud i’r ardal deimlo’n fwy diogel i bobl leol. Sef, bydd y gwelliannau hyn yn cynnwys gosod teledu cylch cyfyng, gwell darpariaeth goleuadau a gwelliannau amgylcheddol. Gobeithir y bydd y newidiadau hyn yn golygu y bydd yr ardal yn llai dymunol i'r rhai sy'n ei defnyddio'n annymunol ac yn galluogi'r Heddlu a swyddogion gorfodi eraill i ymchwilio i drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Rubbish.jpg