97色网

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Mae achosion o Drais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol wedi cynyddu ers y pandemig

Published: 07/12/2023

Cafodd Pandemig Covid effaith sylweddol ar ddarparu gwasanaethau arbenigol yng ngogledd Cymru, gan gynnwys cefnogaeth ar gyfer dioddefwyr trais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV). Arweiniodd hyn at newidiadau sylweddol yn y modd y cafodd gwasanaethau eu darparu.

Ers codi鈥檙 cyfyngiadau, bu cynnydd sylweddol yn y galw am yr holl wasanaethau ar draws y rhanbarth, gyda gwasanaethau Sir y Fflint (gan gynnwys Eiriolwyr Annibynnol Trais Domestig, cefnogaeth yn 么l yr angen, darpariaeth allgymorth, lloches a chefnogaeth i blant a phobl ifanc), yn gweld cynnydd o rhwng 40% a 50% yn niferoedd yr atgyfeiriadau, heb unrhyw arwydd o鈥檙 tuedd hwn yn arafu.

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio鈥檔 agos gyda鈥檙 sector arbenigol, i sicrhau bod modd i ddioddefwyr a goroeswyr VAWDASV gael cefnogaeth frys, tymor byr (fel llety), yn ogystal 芒 chefnogaeth fwy hirdymor i wella ar 么l trawma.

Mae Deddf Trais yn Erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn nodi鈥檙 trefniadau ar gyfer atal trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn ogystal 芒 diogelu dioddefwyr a darparu cefnogaeth i鈥檙 rhai yr effeithir arnynt.

Yn 2016, bu Cyngor Sir y Fflint (CSFf) a phartneriaid statudol eraill yng ngogledd Cymru yn cydweithio i sefydlu Bwrdd VAWDASV i fodloni gofynion Deddf 2015. Caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a rhan bwysig o鈥檙 cyllid yw darparu hyfforddiant VAWDASV i staff ar draws y sefydliadau hyn, yn amrywio o raglenni ymwybyddiaeth ar-lein a hyfforddiant arbenigol i swyddogion rheng flaen, i ddealltwriaeth lefel uchel, strategol i uwch arweinwyr.

Mae 73% o weithlu Cyngor Sir y Fflint wedi cwblhau e-ddysgu VAWDASV ar gyfer y Fframwaith Hyfforddiant Cenedlaethol yn 2022/23, un o鈥檙 uchaf yng ngogledd Cymru. Mae hyfforddiant arbenigol a strategol wedi dechrau cael ei gyflwyno hefyd, gyda mwy na 330 o swyddogion CSFf eisoes wedi cael yr hyfforddiant hwn.

Meddai鈥檙 Prif Swyddog Cynllunio, yr Amgylchedd a鈥檙 Economi, Andrew Farrow: "鈥榊ng Nghyngor Sir y Fflint, rydym yn deall pwysigrwydd y gwasanaethau arbenigol hyn i鈥檔 cymunedau ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn darparu鈥檙 gefnogaeth gywir i鈥檙 rhai sydd ein hangen a byddwn yn parhau i ddysgu a datblygu鈥檙 sgiliau sydd eu hangen arnom er mwyn darparu'r gwasanaethau hyn."

Meddai鈥檙 Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd, y Cyng. Chris Bithell: "Mae鈥檔 peri pryder gweld y cynnydd o ran y galw am gefnogaeth VAWDASV yn ein cymunedau, ond rwy鈥檔 ffyddiog fod CSFf, ynghyd 芒鈥檙 sefydliadau statudol eraill, wedi ymrwymo i gefnogi鈥檙 bobl ddiamddiffyn hyn ym mhob ffordd bosibl."