97É«Íø

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Eithriadau 20 mya wedi eu cadarnhau

Published: 22/09/2023

Er mwyn paratoi ar gyfer gweithredu deddfwriaeth 20mya newydd Llywodraeth Cymru ar 17 Medi 2023, mae Cyngor Sir y Fflint wedi cynnal asesiad o ffyrdd lleol yn erbyn y canllawiau cenedlaethol cyfredol.Ìý Ìý

O ganlyniad i’r asesiad hwn canfuwyd y canlynol:

  • rhannau o nifer fechan o ffyrdd ble gellir cynyddu’r terfynau cyflymder presennol yn uwch na 30mya, a
  • rhannau o ffyrdd a ellir eu hystyried yn ‘eithriadau’ i ddeddfwriaeth 20mya newydd Llywodraeth Cymru.

Yn gynharach yr haf hwn bu i Gyngor Sir y Fflint ymgynghori’n ffurfiol gyda’r cyhoedd ar y Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn ymwneud â’r ffyrdd hyn.

Mae ymatebion a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad bellach wedi eu hystyried yn rhannol ac mae canlyniad y broses ffurfiol statudol wedi pennu y bydd y darnau canlynol o ffyrdd yn newid fel yr amlinellir isod.Ìý

Rhannau o ffyrdd i gynyddu i 40mya

·ÌýÌýÌýÌýÌý Drury Lane, Bwcle

·ÌýÌýÌýÌýÌý Bannel Lane Bwcle - mae graddau’r cynnig wedi eu byrhau

·ÌýÌýÌýÌýÌý Padeswood Road South, Bwcle

·ÌýÌýÌýÌýÌý Station Road, Talacre - mae graddau’r cynnig wedi eu byrhau

Ìý

Rhannau o ffyrdd sy’n bodloni meini prawf ‘Eithriadau’ 20mya Llywodraeth Cymru ac a fydd yn mynd yn ôl i 30mya

·ÌýÌýÌýÌýÌý A549 Ffordd yr Wyddgrug, Mynydd Isa

·ÌýÌýÌýÌýÌý A549 Ffordd Caer / Dirty Mile - Little Mountain, Bwcle

·ÌýÌýÌýÌýÌý B5127 Ffordd Lerpwl, Bwcle

·ÌýÌýÌýÌýÌý B5128 Ffordd yr Eglwys, Bwcle

·ÌýÌýÌýÌýÌý Drury Lane, Bwcle

·ÌýÌýÌýÌýÌý Parc Dewi Sant, Ewlo - mae graddau’r cynnig wedi eu byrhau.

·ÌýÌýÌýÌýÌý A541 Ffordd Dinbych, yr Wyddgrug

·ÌýÌýÌýÌýÌý A5104 Cyfnewidfa Warren Bank, Brychdyn

·ÌýÌýÌýÌýÌý A5026 Holway Road, Treffynnon

·ÌýÌýÌýÌýÌý B5121 Ffordd Maes Glas, Treffynnon

·ÌýÌýÌýÌýÌý B5129 Kelsterton Road, Kelsterton

·ÌýÌýÌýÌýÌý B5129 Cylchfan Queensferry

Ìý

Mae manylion llawn rhannau o’r ffyrdd a restrir uchod, ble fydd terfynau cyflymder yn newid, ar Ìýy Cyngor.

Ni fydd y terfynau cyflymder diwygiedig yn y lleoliadau a restrir uchod yn dod i rym nes bydd yr holl arwyddion priodol wedi eu gosod ar y safle.Ìý Gwneir y gwaith hwn dros yr wythnosau nesaf.