Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Ni fydd Gwasanaethau Bws Townlynx yn gweithredu unrhyw wasanaethau cludo ar ôl heddiw, Dydd Gwener , 8 Medi, 2023
Published: 08/09/2023
HYSBYSIAD I DEITHWYR
Ni fydd Gwasanaethau Bws Townlynx yn gweithredu unrhyw wasanaethau cludo ar 么l heddiw, Dydd Gwener , 8 Medi, 2023
Mae angen i ni eich hysbysu bod y Cyngor wedi cael gwybod (amser cinio heddiw) na fydd Gwasanaethau Bws Townlynx yn gweithredu unrhyw wasanaethau cludiant ar 么l heddiw, Dydd Gwener, 8 Medi. Mae hyn yn golygu na fydd bysiau ysgol, bysiau coleg na chludiant cyhoeddus sy鈥檔 cael eu gweithredu gan Wasanaethau Bws Townlynx yn weithredol o yfory ymlaen (o ddydd Sadwrn, 9 Medi, 2023).
Bydd Gwasanaethau Cludiant sy鈥檔 cael eu gweithredu gan gwmn茂au bysiau eraill yn dal i fod ar gael fel arfer.
Sut fydd hyn yn effeithio bysiau ysgol?
Bydd nifer sylweddol o ddisgyblion yn cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad hwn, ac yn anffodus, er gwaethaf ein hymdrechion gorau, nid oes digon o adnoddau ymysg gweithredwyr cludiant i gymryd y gwasanaeth hwn ar fyr rybudd.听
Bydd disgyblion cymwys a鈥檙 sawl sy鈥檔 talu yn cael eu heffeithio, ac o ganlyniad, bydd angen i bob disgybl wneud trefniadau cludiant newydd i, ac o鈥檙 ysgol o ddydd Llun, 11 Medi, nes y clywir yn wahanol.
Sut fydd hyn yn effeithio teithwyr ar gludiant cyhoeddus?听
Rydym yn deall y bydd hyn yn achosi amhariad sylweddol i rieni, disgyblion a theithwyr ar gludiant cyhoeddus; serch hynny, rydym eisiau eich sicrhau ein bod yn gwneud popeth posib i ddiogelu gwasanaethau newydd, a byddwn yn rhoi gwybod i chi am y wybodaeth ddiweddaraf wrth i bethau symud ymlaen.听
听