97色网

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Adolygiad o'r Gwasanaeth gwastraff gardd taladwy

Published: 06/12/2018

Bydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Amgylchedd Cyngor Sir y Fflint聽 yn trafod effaith y gwasanaeth gwastraff gardd daladwy yn ei gyfarfod yr wythnos nesaf.聽聽

Cyflwynwyd y ffioedd newydd yn Ebrill 2018 i helpu'r Cyngor i gadw at ei gyllideb ac i sicrhau bod y gwasanaeth yn 么l y disgresiwn hwn yn adennill costau yn llawn.聽

Gofynnir i鈥檙 Pwyllgor Craffu i gefnogi鈥檙 parhad o鈥檙 polisi codi ffi ar gyfer 2019 a thu hwnt a bod y gost bresennol o 拢30 fesul bin yn aros yr un fath yn 2019.

Yn y flwyddyn gyntaf o鈥檙 broses tanysgrifio, gwerthwyd 33,871 o drwyddedau sydd yn golygu dros 40% o breswylwyr wedi tanysgrifio am o leiaf un bin i gael ei gasglu o dan y gwasanaeth newydd.聽

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a Chefn Gwlad Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Carolyn Thomas:

鈥淢ae鈥檙 defnydd gwirioneddol wedi rhagori ryw fymryn ar ein targed ariannol sydd yn golygu y gallwn o bosib edrych ar systemau yn seiliedig ar dechnoleg sydd yn cynnig dull mwy effeithlon o gofrestru bin i eiddo. Bydd hynny鈥檔 cyflymu鈥檙 broses rheoli a thalu ac yn cael gwared ar yr angen i ddosbarthu sticeri dyrannu bob blwyddyn.聽 Rydym yn argymell fod dewisiadau ar gyfer hyn yn cael eu hystyried a鈥檜 cyflwyno mewn amser i dymor 2020.聽聽

Cynnig pellach yw peidio ag ymestyn y gwasanaeth i wasanaeth drwy gydol y flwyddyn.聽 Mae galw cyfyngedig am y gwasanaeth rhwng Rhagfyr a Chwefror, ac er ein bod wedi derbyn nifer fechan o geisiadau am wasanaeth drwy gydol y flwyddyn, mae鈥檙 rhan fwyaf o breswylwyr wedi derbyn y gwasanaeth sy'n cael ei gynnig ar hyn o bryd. Mae鈥檙 holl Ganolfannau Ailgylchu Gwastraff Ty yn derbyn gwastraff gardd drwy gydol y flwyddyn.聽 Mae hefyd yn golygu bod cymhwysedd i gasglu gwastraff ailgylchu ychwanegol sy鈥檔 hel dros gyfnod y Nadolig sy鈥檔 un o鈥檔 amseroedd prysuraf o鈥檙 flwyddyn.

Mae hefyd yn cael ei argymell, ar 么l adolygiad gofalus, na chynigir cyfradd gostyngol i breswylwyr ar fudd-daliadau.聽 Byddai鈥檔 anodd darparu gostyngiad o鈥檙 fath heb olygu costau ychwanegol i breswylwyr eraill sydd ddim yn gymwys a byddai rheoli system o'r fath yn gostus ac yn gofyn amser wrth gyflawni gwiriadau a monitro newidiadau mewn amgylchiadau.聽 Mae traean o鈥檙 rheiny sydd wedi prynu'r gwasanaeth yn rhan o Gynllun Rhyddhad Treth Y Cyngor.