Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Caeau Canmlwyddiant
Published: 22/10/2018
Bydd gofyn i Aelodau Cabinet Sir y Fflint gytuno ar gyflwyno cais i Feysydd Chwarae Cymru i ddynodi pedwar safle yn Sir y Fflint yn Gaeau Canmlwyddiant.
Bydd gofyn i鈥檙 Cabinet hefyd awdurdodi i鈥檙 Weithred Gyflwyno gyda Meysydd Chwarae Cymru gael ei llofnodi ar ran y Cyngor, os yw鈥檙 ymgeiswyr yn llwyddiannus, a chytuno ar ystod o ddigwyddiadau i gael eu cynnal i nodi鈥檙 achlysur o ddynodi safleoedd yn Gaeau Canmlwyddiant.
Y safleoedd dan sylw yw:
- Y lawnt gyferbyn ag Ysgol Croes Atti, y Fflint
- Gerddi Coffa Treffynnon
- Gardd Goffa Coed-llai
- Parc Willows, yr H么b
Mae Caeau Canmlwyddiant yn fenter gan Feysydd Chwarae Cymru, mewn partneriaeth 芒'r Lleng Brydeinig, i warchod ac amddiffyn mannau agored gwerthfawr sydd 芒 rhywfaint o arwyddoc芒d i'r Rhyfel Mawr, er cof am y rhai fu farw. Mae鈥檙 rhaglen yn un o nifer o fentrau i goff谩u can mlynedd ers diwedd y Rhyfel.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Dunbobbin, Cefnogwr y Lluoedd Arfog yng Nghyngor Sir y Fflint:
鈥淏ydd Gweithred Gyflwyno gyfreithiol rhwng Cyngor Sir y Fflint a Meysydd Chware Cymru鈥檔 golygu y bydd y safleoedd sy'n cael eu dynodi'n Gaeau Canmlwyddiant yn cael eu gwarchod am byth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Bydd dynodi safleoedd yn Gaeau Canmlwyddiant yn ategu ymrwymiad y Cyngor i Gyfamod y Lluoedd Arfog ac yn diogelu mannau gwyrdd er budd y gymuned leol.
Daw鈥檙 cyflwyniad hwn ar 么l cais llwyddiannus gan Gyngor Tref Bwcle i Erddi鈥檙 Coroni gael eu dynodi鈥檔 Gae Canmlwyddiant.鈥
Y dyddiad olaf y gellid cyflwyno ceisiadau ar gyfer Caeau Canmlwyddiant i Feysydd Chwarae Cymru yw 11 Tachwedd 2018. Rhaid cwblhau pob Gweithred Gyflwyno erbyn Mai 2019.