97ɫ

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Y Cyfle Olaf i “Rannu eich Cinio”

Published: 22/08/2018

Yr wythnos nesaf fydd wythnos olaf ymgyrch “Rhannwch eich Cinio” Cyngor Sir y Fflint.

Er bod cynlluniau chwarae yn dirwyn i ben, bydd cinio yn cael ei weini bob diwrnod, ac eithrio dydd Llun Gwyl y Banc, yr wythnos nesaf.

Dewch draw i’ch safle cynllun chwarae lleol a mwynhewch fwyd blasus – gyda chinio rhost arbennig ddydd Gwener, 31 Awst.

I’ch atgoffa – gweler isod yr amseroedd a’r lleoliadau:

O 12.00pm:

· Parkfields, Yr Wyddgrug

· Albert Avenue, Y Fflint

· Caeau Chwarae Mancot

· Ysgol Gynradd Trelogan

· Quayplay, Cei Connah

· Safle Sealand Manor

· Pen Y Maes, Treffynnon

· Ysgol Maes Glas, Maes Glas

O 1.30pm:

· Gas Lane, Yr Wyddgrug

· Dee Cottages, Y Fflint

· Caeau Chwarae Gary Speed, Aston

· Sandycroft

· Gronant

· Saltney Ferry

· Maes Pennant, Mostyn

· Ysgol Merllyn, Bagillt

· Shotton 33

· Garden City

· Holway

· Pen Y Ffordd, Treffynnon