97色网

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr

Published: 02/08/2018

Roedd diddordeb busnesau lleol Sir y Fflint yn y Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol y Cyngor (SHARP), yn amlwg mewn digwyddiad Cwrdd 芒'r Prynwr diweddar.

Mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir y Fflint, croesawodd y datblygwyr, Wates Residential North, fusnesau lleol i鈥檞 swyddfeydd yn yr Wyddgrug i ddarganfod ffyrdd iddynt fod yn rhan o weithio ar y cyngor newydd ac adeiladu tai fforddiadwy ar draws y sir.

Mynychodd dros 20 o wahanol fusnesau lleol, gyda nifer yn cael eu hystyried ar gyfer cytundebau ar y gwahanol safleoedd.Mae Wates Residential North yn awyddus i gyflogi busnesau a phobl leol er mwyn hybu鈥檙 economi lleol a darparu sgiliau a phrofiad i鈥檙 gweithlu lleol.

Estynnwyd gwahoddiad i bob maes o鈥檙 diwydiant adeiladu gan gynnwys gwaith daear, gosodwyr brics, towyr, gweithwyr plymio a thrydanol, plastrwyr, seiri, paentwyr, tirlunwyr a ffenswyr. Mynychodd t卯m Datblygu Busnes y digwyddiad hefyd, a gynhaliwyd mewn partneriaeth 芒 Sir y Fflint mewn Busnes.

Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:

鈥淢ae nifer o fusnesau lleol wedi elwa o weithio gyda ni eisoes, o ganlyniad i鈥檙 bartneriaeth lwyddiannus rhwng y Cyngor a Wates. Mae cam nesaf ein rhaglen SHARP yn rhoi cyfleoedd i fusnesau lleol eraill gymryd mantais o鈥檙 cyfle hwn, waeth pa mor fawr ydyn nhw.

鈥淩ydym yn awyddus i barhau i greu cyfleoedd cyflogaeth trwy ddefnyddio busnesau lleol. Byddwn yn annog busnesau bach yn y diwydiant adeiladu i fynychu鈥檙 digwyddiad hwn i gael rhagor o wybodaeth ac i weld sut y gallant gyfranogi."

2018-CE-0029-JS.jpg