Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Adolygu rhwydwaith bysiau yn Sir y Fflint
Published: 10/07/2018
Dros y tri mis diwethaf, mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn ymgynghori ar
ddyfodol darpariaeth gwasanaethau bws 芒 chymhorthdal sydd yn cefnogi ac yn
ategur rhwydwaith masnachol.
Pwrpas yr adolygiad oedd edrych sut i flaenoriaethu cyllid cyhoeddus orau lle
mae鈥檙 angen mwyaf a sicrhau bod darpariaeth gwasanaethau bws lleol yn
gynaliadwy, yn fforddiadwy ac yn deg ar draws y Sir. Fe ystyriodd yr adolygiad
ardaloedd or Sir sydd heb gludiant cyhoeddus ar hyn o bryd a sut i gefnogi
gwasanaethau masnachol orau er mwyn sicrhau eu cynaliadwyedd.
Gofynnodd Sir y Fflint am farn aelodau o鈥檙 cyhoedd a budd-ddeiliaid allweddol
am y datrysiad cludiant mwyaf priodol ar gyfer eu hardal leol trwy adnabod
patrymau teithio presennol, lle a phryd mae angen cludiant, pwrpas y daith a
pha rai o鈥檙 pedwar dewis arfaethedig, fyddai鈥檔 darparu datrysiad cludiant
cynaliadwy at y dyfodol. I gynorthwyo gyda hyn, rhannwyd y Sir mewn i bedwar
ardal ddaearyddol er mwyn blaenoriaethu a chanolbwyntio鈥檙 angen cludiant ar
gyfer cymunedau unigol. Cyflwynwyd pedwar dewis cludiant i鈥檞 hystyried yn yr
ardaloedd hyn.
Mae adborth o鈥檙 ymgynghoriad bellach wedi cael ei gasglu a鈥檌 asesu, a鈥檙 dewis a
ffefrir ydi cefnogi llwybrau bws ar y rhwydwaith bysiau craidd a chyflwyno
Trefniadau Teithio Lleol mewn ardaloedd oddi ar y rhwydwaith craidd. Bydd y
dewis hwn yn darparu cysondeb a hyblygrwydd o fewn y rhwydwaith a gefnogir gan
alluogi i ardaloedd sydd heb gludiant cyhoeddus ar hyn o bryd i gael gwasanaeth
tra鈥檔 parhau i ddarparu lefel o wasanaeth i鈥檙 rhai sydd 芒 chludiant cyhoeddus.
Pwrpas y trefniadau teithio lleol ydi cysylltu cymunedau i brif ganolbwyntiau,
megis canol trefi a鈥檙 rhwydwaith bysiau craidd ar gyfer siwrneiau ymlaen, tran
cynyddu mynediad teithwyr at wasanaethau masnachol gan sicrhau eu
cynaliadwyedd.
Bydd canlyniad yr ymgynghoriad yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a
Chraffu鈥檙 Amgylchedd Sir y Fflint ar 12 Gorffennaf iw ystyried.
Yn ogystal 芒 chanlyniad yr adolygiad rhwydwaith bysiau, fe gynhelir trafodaeth
ar nifer y trefniadau cludiant ysgol sefydledig nad ydynt yn cydymffurfio 芒
pholisi presennol Cludiant o鈥檙 cartref i鈥檙 ysgol Cyngor Sir y Fflint, ynghyd ag
adolygiad o gostau tocynnau bws rhatach ar gyfer cludiant ysgol.