Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyhoeddi digwyddiad Cwrdd âr Prynwr
Published: 06/07/2018
Mae Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol Cyngor Sir y Fflint yn cael effaith
gadarnhaol ar fusnesau bach lleol yn y sir.
Mae鈥檙 rhaglen yn adeiladu tai cyngor a thai fforddiadwy newydd ar draws Sir y
Fflint.
Mae鈥檙 contractwr a benodwyd gan y Cyngor, Wates Residential North, yn cynnal
digwyddiad fydd yn darparu cyfle i fusnesau bach lleol ganfod mwy am y
datblygiadau tai newydd hyn gyda鈥檙 nod o gael eu cyflogi fel isgontractwyr.
Mae croeso i鈥檙 holl fusnesau bach lleol sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 diwydiant adeiladu ac
sydd wedi鈥檜 lleoli yn Sir y Fflint ymweld 芒 swyddfa Wates, hen Lyfrgell yr
Wyddgrug ar Raikes Lane yn yr Wyddgrug ar 19 Gorffennaf rhwng 8am a 10am i gael
rhagor o wybodaeth. Estynnir gwahoddiad i bob maes o鈥檙 diwydiant adeiladu gan
gynnwys gwaith daear, gosodwyr brics, towyr, gweithwyr plymio a thrydanol,
plastrwyr, seiri, paentwyr, tirlunwyr a ffenswyr. Fe fydd Datblygu Busnes yn
mynychu鈥檙 digwyddiad mewn partneriaeth 芒 Sir y Fflint mewn Busnes.
Dywedodd Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:
鈥淢ae nifer o fusnesau lleol wedi elwa o weithio gyda ni eisoes, o ganlyniad
i鈥檙 bartneriaeth lwyddiannus rhwng y Cyngor a Wates. Mae cam nesaf SHARP yn
rhoi cyfleoedd i fusnesau lleol eraill gymryd mantais o hyn, waeth pa mor fawr
ydyn nhw.
鈥淩ydym yn awyddus i barhau i greu cyfleoedd cyflogaeth trwy ddefnyddio
busnesau lleol. Byddwn yn annog busnesau bach yn y diwydiant adeiladu i
fynychu鈥檙 digwyddiad hwn i gael rhagor o wybodaeth ac i weld sut y gallant
gyfranogi.